Cam 1 Prosiect Hwb Cymunedol Llwynhendy

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Gwledig Llanelli

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llwynhendy

Mewn ymateb i ymgynghori helaeth ac astudiaeth ddichonoldeb, mae man chwarae newydd yn cael ei ddatblygu ar y gofod hamdden sy'n amgylchynu llyfrgell Llwynhendy. Bydd gwahanol eitemau chwarae yn cael eu gosod, llwybrau troed yn cael eu creu, a gwaith tirlunio cyffredinol yn cael ei wneud yn yr ardal.

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy