‘Driving Forward’ - Ateb o ran trafnidiaeth

Ymgeisydd y prosiect: Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Mae bws mini 17 sedd cwbl hygyrch wedi’i brynu i fynd i’r afael â’r diffyg trafnidiaeth i drigolion nad ydynt yn gallu cael mynediad i wasanaethau yng Nghwm Gwendraeth a thu hwnt. Mae'r gwasanaeth newydd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo cynhwysiant a gwella ansawdd bywyd pob grŵp oedran.

Mae tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn.

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy