Dyfodol newydd i Is-adran Ambiwlans Sant Ioan Cymru yng Nghaerfyrddin

Ymgeisydd y prosiect: Ambiwlans Sant Ioan Cymru

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Caerfyrddin

Mae hyn wedi galluogi cynyddu mewn ymgysylltu cymunedol trwy sicrhau mynediad at gyfleusterau diogel a gwell. Mae clybiau brecwast a hybiau cynnes wedi'u creu ac maent yn cael derbyniad da, gan ddangos y cynnydd yn y cyrhaeddiad i'r gymuned.

Mae diffibriliwr mynediad cyhoeddus wedi'i brynu a'i osod ar flaen yr adeilad.

Mae ymgyrch wirfoddoli wedi cael ei lansio i helpu denu gwirfoddolwyr newydd a chreu mwy o achubwyr bywyd yn y gymuned.

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy