Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd

Ymgeisydd: Capel Bethlehem Newydd Pwll-trap

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pwll-trap

Nod y cynllun yw trawsnewid Capel Bethlehem Newydd yn ganolfan i gymuned Pwll-trap a'i hanghenion; yn benodol canolfan i hyrwyddo gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r defnydd o'r iaith yn y gymuned yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a lles. 

Trwy'r cyllid hwn, mae'r prosiect wedi cyflogi rheolwr am flwyddyn i osod y sylfeini ar gyfer hyrwyddo a threfnu defnydd o'r adeilad a'r adnoddau technegol a hefyd prynu offer a dodrefn cegin angenrheidiol i wneud y gofod yn gwbl weithredol.  

Prosiectau a Gymeradwywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig - Cymunedau Cynaliadwy