Astudiaethau a ariennir gan LEADER
Yn ystod y cylch hwn o raglen LEADER, mae’r Grŵp Cefn Gwlad wedi cymeradwyo nifer o astudiaethau dichonoldeb sy’n ymwneud ag ystod o themâu. Mae'r astudiaethau hyn ar gael i chi eu lawrlwytho a'u darllen.
Mae’r astudiaethau canlynol wedi’u cwblhau hyd yn hyn.
Thema: 2
Ymgeisydd: Tîm Cyllid Allanol Cyngor Sir Caerfyrddin, ar ran y Grŵp Cefn Gwlad, y bartneriaeth sydd â chyfrifoldeb dros reoli'r rhaglen LEADER yn Sir Gaerfyrddin.
Crynodeb: Cafodd y broses ymgynghori ei chynllunio fel ei bod o help i’r Bartneriaeth wrth iddi geisio canfod modelau posibl o Siopau Gwib y byddai modd eu haddasu ar gyfer Sir Gaerfyrddin wledig.
Cyfraniad y Cynllun Datblygu Gwledig: £11,368.00
Thema: 2
Ymgeisydd: Coleg Sir Gâr
Crynodeb: Mae'r astudiaeth ddichonoldeb hon yn amlinellu ymchwiliad i weld a ellir defnyddio technoleg gwehyddu jacquard wrth weithgynhyrchu ffabrig a dillad cywasgu, yn ogystal â nodi a oes yna alw ac angen am ddatblygiad pellach yn nyluniad technegol dillad cywasgu.
Cyfraniad y Cynllun Datblygu Gwledig: £23,865.01
Thema: 3
Ymgeisydd: Cyngor Tref Cwmaman ar ran cymuned Cwmaman
Crynodeb: Astudiaeth ddichonoldeb yn canolbwyntio ar ystod o asedau ffisegol yn y gymuned o fewn pentrefi Glanaman a Garnant.
Cyfraniad y Cynllun Datblygu Gwledig: £7,070.30
Thema: 1
Ymgeisydd: Calon Cymru Network
Crynodeb: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn mynnu bod y boblogaeth yn byw a gweithio mewn ffyrdd cwbl wahanol, amgylcheddol sensitif. Mae’r ymchwiliad hwn yn ystyried y potensial i aneddiadau newydd sy’n addas.
Cyfraniad y Cynllun Datblygu Gwledig: £15,368.16
Thema: 2
Ymgeisydd: Coleg Sir Gâr
Crynodeb: Astudiaeth ddichonoldeb er mwyn nodi sut y gellir gwneud y defnydd gorau o Dŷ Pibwr-lwyd, adeilad rhestredig Gradd 2 o Oes Sioraidd sy'n ddiangen.
Cyfraniad y Cynllun Datblygu Gwledig: £16,951.91
Thema: 2
Ymgeisydd: Gyngor Sir Ceredigion, ar ran Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Crynodeb: Cafodd y broses ymgynghori ei chynllunio i gyflawni astudiaeth
ddichonoldeb ar fodelau logisteg gynaliadwy o ddosbarthu bwyd yn Ne-orllewin Cymru i gysylltu defnyddwyr lleol â chynhyrchwyr lleol.
Cyfraniad y Cynllun Datblygu Gwledig: £23,989.13
Mwy ynghylch Rhaglen LEADER