Hysbysiad Trethi Annomestig 2023/24

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Rydym wedi clustnodi £702.196m yn ein cyllideb i wario ar ddarparu gwasanaethau i'n trethdalwyr yn 2023/24 (o’i gymharu â ffigur o £664.084m yn 2022/23).

Telir swm pellach o £13.334m i gyrff cyhoeddus eraill ar ffurf taliadau treth a chyfraniadau. Y gwariant net yw £450.341m.

£1,490.97 fydd y dreth Band D a godir gan y Cyngor Sir ar Drethdalwyr y Cyngor ar gyfer 2023/24, sy’n cynrychioli codiad o 6.80% o ran Treth y Cyngor.

Mae’r wybodaeth a roddir isod yn esbonio rhai o’r termau y gellir eu defnyddio ar yr hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn yr wybodaeth ategol. Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.

Mae ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i mewn i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i awdurdodau heddlu. Bydd eich cyngor a’ch awdurdod heddlu yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ailddosbarthwyd, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Caiff pob eiddo annomestig ei ail brisio bob 5 mlynedd. O 1 Ebrill 2017 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2015. Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth ardrethol.

Dangosir gwerth mwyafrif yr eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr ardrethi leol, y gellir archwilio copi ar wefan y Swyddfa Brisio neu drwy ffonio 03000 505505.

Gall y gwerth ardrethol newid os cred y swyddog prisio fod amgylchiadau'r eiddo wedi newid. Gall y trethdalwr (a rhai eraill sydd â diddordeb yn yr eiddo) hefyd mewn rhai amgylchiadau penodol gynnig newid mewn gwerth. Os nad yw'r trethdalwr a'r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad, bydd y mater yn cael ei gyfeirio fel apêl i Dribiwnlys Prisio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael gan y Swyddfa Brisio.

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol ac am sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan Cyngor Sir Gâr neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gwefan Swyddfa Brisio.

Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac, ag eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi o fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Ar 1 Ebrill 2011 mae’r trothwy eithrio o ran Gwerth Trethiannol wedi gostwng i £2,600.

Gall perchenogion eiddo annomestig sydd heb ei feddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100 y cant o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis, neu, yn achos ffatrioedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.

Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig—

  • yn achos elusen, os defnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol, neu
  • yn achos clwb, os yw’r clwb wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM.

Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20 y cant sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a chaiff hefyd roi rhyddhad ar eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi’u sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â:

  • Inland Revenue Charities, Sport Clubs Unit, St. Johns House, Bootle L69 9BB (0845 3020203)
  • A’i wefan yw:- www.hmrc.gov.uk

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r cynllun a fydd yn dod i rym ar 1af Ebrill 2018. Disgrifir y cynllun diwygiedig isod:

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Hefyd nid oes newid ar gyfer safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol dros £6,000, hyd at y terfyn Gwerth Ardrethol uwch o £12,000, lle bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol ar raddfa o oddeutu 1% am bob £60 o Werth Ardrethol e.e. bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,120 yn cael rhyddhad o 98%; bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,600 yn cael rhyddhad o 90%.

(Bydd y rhyddhad a amlinellir uchod yn berthnasol i bob math o fusnes, ac nid i rai adwerthu yn unig. Er bod rhai categoriau o dalwyr treth yn cael eu eithrio , gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau elusennol.)

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd gofal plant sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Ar gyfer safleoedd gofal plant sydd â gwerth ardrethol dros £6,000, a hyd at derfyn Gwerth Ardrethol uwch cynyddol o £20,500, bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol o 100% i sero.
  • Bydd hawl gan Swyddfeydd Post sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £9,000 i gael rhyddhad o 100%; bydd hawl gan y rheiny sydd â Gwerth Ardrethol uwch na £9,000 hyd at £12,000 i gael rhyddhad o 50%.

Fodd bynnag, o dan y rheolau newydd, bydd trethdalwr ond yn gallu cael rhyddhad ar gyfer hyd at ddau eiddo mewn un awdurdod lleol (mae eiddo gofal plant a swyddfeydd post wedi'u heithrio o'r cyfyngiad hwn). Mewn achosion o'r fath rhaid i'r trethdalwr roi gwybod i'r Cyngor am yr hereditamentau hynny.

Cofiwch na fydd safleoedd talwyr ardrethi sy'n elusennau neu'n sefydliadau dielw ac sydd â hawl i wneud cais am ryddhad "elusennol" gorfodol neu yn ôl disgresiwn, yn gymwys i gael Rhyddhad Busnesau Bach. Mae'n rhaid bod adeilad y busnes yn cael ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad.