Buddsoddiad a chyllid
Mae gan Busnes Cymru y cyfleoedd cyllido canlynol ar gyfer busnesau Twristiaeth.
Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS)
Mae hwn ar gael i fusnesau canolig eu maint neu fusnesau mawr, sydd â 50 neu fwy o weithwyr Cyfwerth ag Amser Llawn. Cronfa fuddsoddi ydyw sy'n cynnwys cymysgedd o gyllid i'w ad-dalu a chyllid nad oes angen ei ad-dalu, gan dargedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i uwchraddio cynhyrchion presennol, neu greu cynhyrchion newydd o ansawdd uchel.
Rhoddir ystyriaeth i gymorth rhwng £25,000 a £500,000, er mwyn:
- Creu a diogelu swyddi
- Gwireddu budd economaidd a thwf
- Cyflwyno ansawdd, arloesi a naws am le.
Y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
Nod y gronfa refeniw hon yw hyrwyddo a datblygu cyrchfannau ymwelwyr nodedig o ansawdd uchel trwy gyflwyno eu cynlluniau rheoli cyrchfannau. Rhoddir pwyslais ar y prosiectau hynny sy'n cyd-fynd â blynyddoedd thematig Croeso Cymru a gaiff eu harwain gan y cynnyrch, ac â Ffordd Cymru. Y Gronfa Arloesi mewn Cynnyrch Twristiaeth (TPIF), cronfa refeniw sydd â'r nod o weithio gyda phartneriaid y sector twristiaeth ledled Cymru:
- Annog arferion cydweithio agosach rhwng consortia twristiaeth, partneriaethau a grwpiau masnach
- Datblygu a gwella'r cynnyrch a gynigir i ymwelwyr er budd y sector twristiaeth a chymunedau lleol
- Helpu'r economi twristiaeth i dyfu mewn modd cynaliadwy.
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Mae'r gronfa fuddsoddi hon ar gael ar gyfer sefydliadau cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector a sefydliadau nid er elw, ac mae'n targedu prosiectau amwynderau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Rhoddir ystyriaeth i gymorth rhwng £25,000 a £128,000. Y cap ar gyfanswm gwariant prosiect cymwys yw £160,000. Y nod yw:
- Datblygu cyfleusterau twristiaeth cynaliadwy o ansawdd
- Ychwanegu gwerth at brofiad yr ymwelwyr
- Cyflwyno ansawdd, arloesi a naws am le.
Cronfa Busnesau Bach a Micro (MSBF)
Mae'r gronfa fuddsoddi hon ar gael i fusnesau bach a micro sydd â llai na 50 o weithwyr Cyfwerth ag Amser Llawn, a'i nod yw targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i uwchraddio cynhyrchion presennol, neu greu cynhyrchion newydd o ansawdd uchel. Rhoddir ystyriaeth i gymorth rhwng £25,000 a £500,000, er mwyn:
- Creu a diogelu swyddi
- Gwireddu budd economaidd a thwf
- Cyflwyno ansawdd, arloesi a naws am le
Mwy ynghylch Twristiaeth