Digwyddiad Cwrdd â'ch Atyniad i Ymwelwyr Sir Gaerfyrddin
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/02/2025
Dyddiad: Dydd Mercher 5 Mawrth 2025
Lleoliad: Uned 10, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin
Rhowch hwb i'ch archebion ac amser aros yn eich busnes yn 2025 drwy ddod i ddigwyddiad Cwrdd â'ch Atyniad, lle byddwch yn cwrdd â rhai o'r 1,200 o ddarparwyr llety yn y sir, o westai i dai lety gan gynnwys llety hunanarlwyo. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynnig dros 30,000 o welyau gwahanol bob dydd ac maen nhw'n rhanddeiliad allweddol i ddod â thros £450 miliwn i'r economi leol - gallan nhw ddod ag ymwelwyr i'ch safleoedd!
Dyma gyfle am ddim wedi'i drefnu gan y Cyngor Sir, lle bydd ardal arddangos a bwrdd yn cael eu neilltuo i holl atyniadau perthnasol Sir Caerfyrddin yn yr uned adwerthu yng nghanol Caerfyrddin sy'n agos at nifer sylweddol o leoedd parcio. Bydd y digwyddiad yn cael ei hyrwyddo'n sylweddol drwy hysbysebu digidol, rhwydwaith marchnata'r Cyngor Sir a thrwy bartneriaeth gyda Radio Sir Gâr.
Ymysg yr atyniadau sydd eisoes wedi archebu bwrdd y mae Parciau Gwledig Pen-bre a Llyn Llech Owain, Amgueddfa Sir Gâr, Theatrau Sir Gâr gan gynnwys Theatr y Ffwrnes, pob un o'r pum canolfan hamdden, Plasty a Gerddi Parc Howard, Amgueddfa Cyflymder Pentywyn, Cartref Dylan Thomas, y Rhwydwaith Hawliau Tramwy, y 2 draeth hiraf yn ne-orllewin Cymru a chyflwyniadau ar dri atyniad newydd fydd yn agor cyn bo hir gan gynnwys Llwybr Dyffryn Tywi a chyfleusterau hamdden ac adloniant yn nhref Llanelli a thref Caerfyrddin.
Peidiwch â cholli'r cyfle AM DDIM rhagorol hwn i ehangu'ch rhwydwaith, meithrin partneriaethau newydd, a helpu i gynyddu'ch archebion yn 2025. Y cyntaf i'r felin piau hi
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Sarah yn y Cyngor Sir drwy twristiaeth@sirgar.gov.uk