Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ym meysydd parcio dwy dref wledig fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i wella ansawdd dŵr a diogelu amgylchedd naturiol y sir.

Bydd y Prosiect Afonydd Iach yn archwilio opsiynau draenio cynaliadwy ar gyfer Maes Parcio Llanymddyfri a Maes Parcio Castellnewydd Emlyn. Nod y cynlluniau arfaethedig yw lleihau faint o ddŵr wyneb ffo sy'n mynd i mewn i rwydweithiau draenio lleol ac afonydd cyfagos.Trwy gyflwyno nodweddion systemau draenio cynaliadwy, bydd glawiad yn cael ei arafu a'i hidlo lle mae'n glanio, yn hytrach na llifo oddi ar y tarmac ac i mewn i'r draen.

Bydd y dull arloesol hwn yn helpu i leihau'r risg o orlif stormydd, gwella ansawdd dŵr lleol, a chefnogi'r gwaith o ddiogelu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig y Teifi a'r Tywi rhag cyfoethogi maetholion.

Mae cyllid ar gyfer cam datblygu'r prosiectau wedi'i sicrhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Sut i gymryd rhan

Er mwyn sicrhau bod y cymunedau lleol yn cael cyfle i ddysgu mwy a rhannu eu barn, cynhelir sesiynau galw heibio yn y ddwy dref:

Llanymddyfri - Y Gannwyll, Dydd Mawrth , 25 Tachwedd 10:00am – 2:00pm

Castellnewydd Emlyn – Neuadd Cawdor, Dydd Iau 27 Tachwedd, 10:00am–2:00pm

Bydd swyddogion y cyngor wrth law yn y ddwy sesiwn i drafod y cynigion a chasglu adborth gan drigolion.

I'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu'n bersonol, bydd cyfle hefyd i roi eu barn drwy ffurflen adborth digidol drwy ddilyn y dolenni isod. 

Llanymddyfri

Castellnewydd Emlyn