Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin
- Y cyfnod ymgynghori: 14/08/2024 ~ 16:00 - 25/10/2024 ~ 12:00
- Cynulleidfa: Yr holl breswylwyr
- Ardal: Pob Ward/ardal
- Adran / gwasanaeth y Cyngor: Cymunedau, Gwasanaethau Integredig
Ar hyn o bryd nid oes strategaeth atal ar waith ar gyfer Sir Gaerfyrddin nac ar gyfer rhanbarth Hywel Dda, felly mae'n bryd adolygu a diweddaru ein sefyllfa a datblygu strategaeth atal wedi'i diweddaru sy'n ystyried ein sefyllfa bresennol ac yn nodi ein gweledigaeth atal ar gyfer y dyfodol. Enw'r strategaeth newydd fydd 'Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin’.
Elfen allweddol o ddatblygu'r strategaeth yw deall beth mae 'Byw'n Dda' yn ei olygu i bobl Sir Gaerfyrddin a beth arall y gellir ei wneud i gefnogi 'Byw'n Dda', a bydd y wybodaeth hon yn rhoi arweiniad inni o ran penderfynu beth sydd angen inni ei wneud yn y gofod ataliol i sicrhau bod pobl yn gallu byw'n dda am gyfnod hwy.
Trwy gwblhau'r holiadur ar-lein neu drwy fynd i un o'n tri digwyddiad Byw'n Dda cyntaf:
Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn – 16 Awst 2024 10am - 2pm
Neuadd y Tymbl, y Tymbl – 18 Medi 2024 10am - 2pm
Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf – 23 Hydref 2024 10am - 2pm
Bydd adborth o'r arolygon a'r digwyddiadau Byw'n Dda yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio i ffurfio Strategaeth Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn cael ei chyhoeddi ddiwedd mis Tachwedd. Bydd rhagor o gyfleoedd i ymgymryd â'r strategaeth ar gael yn y tri digwyddiad Byw'n Dda dilynol, y cyntaf yw:
Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli - 29 Tachwedd 2024 10am - 2pm
A bydd dau arall (dyddiadau a lleoliadau i'w cadarnhau) yn cael eu cynnal ddechrau 2025.
Gweler yr holl ymgynghoriadau