Pam yr ydym wedi ymgynghori

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth 23 Ebrill 2024 yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer terfynau cyflymder 20mya, rydym yn derbyn awgrymiadau ynghylch pa ffyrdd y credwch y dylid eu heithrio o'r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yng Nghymru.

Gofynnir i chi lenwi'r ffurflen hon gan nodi eich awgrymiadau (ynghyd â rhesymau dilys) ynghylch pam y dylid eithrio ffordd o'r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yng Nghymru a byddwn yn cofnodi eich adborth ac yn ei adolygu pan fydd canllawiau eithriadau newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn disgwyl derbyn y canllawiau hyn erbyn yr haf.

Ni fyddwn yn gallu cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny.

Os yw eich adborth yn ymwneud â chefnffordd, nid Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am y rhain, felly anfonwch e-bost at TrunkRoads20mph@gov.wales. Mae rhagor o wybodaeth am gefnffyrdd ar gael ar Fap Data Cymru.