Pam yr ydym wedi ymgynghori
Yn dilyn setliad cyllido is na chwyddiant Llywodraeth Cymru o 3.3%, a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr, mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin bontio diffyg o dros £22 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2024/2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod iddi wynebu'r "dewisiadau cyllideb mwyaf llym a phoenus i Gymru yn yr oes ddatganoli" wrth baratoi ei chyllideb ddrafft, sy'n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (RSG) hollbwysig a ddyrannwyd i awdurdodau lleol. Mae'r cynnydd o 3.3% yn yr RSG, sy'n cyfrif am tua thri chwarter ein cyllid, yn brin iawn o'r cyfraniad sydd ei angen ar y Cyngor i gynnal y gwasanaethau fel y maent ar hyn o bryd. Daw'r rhan fwyaf o'r incwm sy'n weddill, sy'n cyfateb i tua chwarter cyfanswm y gyllideb refeniw flynyddol, o'r Dreth Gyngor, sy'n codi dros £100 miliwn y flwyddyn.
Cyflwynwyd cyfanswm o 11 cynnig cyllideb i'w hystyried. Cafodd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â mwy na 100 o gynigion rheoli manwl, megis trefniadau caffael, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.
Sut aethom ati i ymgynghori
Roedd trigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol wedi lleisio eu barn ar ystod o gynigion polisi newydd i arbed arian, a daw'r rhain o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor.