Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Y cyfnod ymgynghori: 14/10/2024 ~ 12:00 - 10/11/2024 ~ 12:00
- Cynulleidfa: Yr holl breswylwyr a/neu fusnesau
- Ardal: Llanelli
- Adran / gwasanaeth y Cyngor: Lle, Seilwaith & Datblygiad Economaidd, Priffyrdd a thrafnidiaeth
Pam yr ydym wedi ymgynghori
Rydym yn geisio ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch y rhwydwaith cerdded a beicio a nodi cyfleoedd, cyfyngiadau ac adborth cyffredinol, i gasglu gwybodaeth leol gan drigolion lleol a defnyddwyr y rhwydwaith i weld ble/pa fathau o welliannau y gellir eu gwneud i wella'r seilwaith presennol i gefnogi cerdded a beicio yn well.
Byddwn yn ceisio defnyddio'r wybodaeth hon i lywio ymhellach ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau posibl y gellid eu hystyried gan y gwyddom fod gwybodaeth leol yn allweddol i gyflwyno mesurau/cynlluniau sydd â blaenoriaeth uchel ac effaith uchel i'r gymuned leol.
Sut aethom ati i ymgynghori
Bydd y wefan ryngweithiol yn eich tywys trwy ein cynlluniau ar gyfer y pedwar lleoliad hyn ac yn eich gwahodd i gwblhau arolwg byr ar y diwedd.
Canlyniad yr ymgynghoriad
Bydd yr adborth o'r ymgysylltiad yn cael ei ddefnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynlluniau/llwybrau a fydd yn cael eu hamlinellu ymhellach a bydd yn ein helpu i gasglu mwy o wybodaeth sylfaenol/sylfaen dystiolaeth ar yr hyn y mae'r gymuned leol am ei weld yn yr ardal, gan dynnu sylw at unrhyw gyfleoedd a chyfyngiadau yn ogystal â gwybodaeth leol i fwydo i'r mathau o ymyriadau a dyluniadau y byddem yn ceisio eu datblygu.