Adolygiad o Ffiniau Seneddol

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2024

DIWEDDARIAD:

Mae adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi’i osod gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, ac mae’r map newydd o gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae Argymhellion Terfynol y Comisiwn, a ddaw i rym yn awtomatig yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, yn gweld newidiadau sylweddol pellach o’r Cynigion Diwygiedig a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ym mis Hydref 2022, yng ngoleuni’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan y Comisiwn.

Dewch o hyd i'r Argymhellion Terfynol yma: Arolwg Seneddol 2023 - Argymhellion Terfynol | BComm Wales (comffin-cymru.gov.uk).

 

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cadarnhau y bydd yn cyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig ar 19 Hydref 2022.

Caiff y Cynigion Diwygiedig eu llywio gan y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ac Eilaidd (gan gynnwys Gwrandawiadau Cyhoeddus), ac Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol sydd yn seiliedig ar y sylwadau a dderbyniwyd.

Ar ôl cyhoeddi'r Cynigion Diwygiedig, bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol, Pecyn Partneriaid, a mapiau o'r etholaethau arfaethedig.

Bydd y cyhoeddiad yn sbarduno Cyfnod Ymgynghori 4 wythnos, olaf Arolwg 2023, lle bydd y cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael un cyfle arall i gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn ar etholaethau seneddol newydd Cymru.

Ar ôl i’r Cyfnod Ymgynghori ddod i ben, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ac yn datblygu ei Argymhellion Terfynol, i’w cyflwyno yn Haf 2023.

 

Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2023

O 19 Hydref 2022, mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei adroddiad sy'n cynnwys cynigion diwygiedig ar gyfer newidiadau i etholaethau Seneddol yng Nghymru.

Caiff y Cynigion Diwygiedig eu llywio gan y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ac Eilaidd (gan gynnwys Gwrandawiadau Cyhoeddus), ac Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol sydd yn seiliedig ar y sylwadau a dderbyniwyd.

Bydd y cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar 15 Tachwedd 2022.

Bydd y cyhoeddiad yn sbarduno Cyfnod Ymgynghori 4 wythnos olaf Arolwg 2023, lle bydd y cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael un cyfle arall i gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn ar etholaethau seneddol newydd Cymru.

Ar ôl i’r Cyfnod Ymgynghori ddod i ben, bydd y Comisiwn yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd ac yn datblygu ei Argymhellion Terfynol, i’w cyflwyno yn Haf 2023.

Gellir gweld y cynigion a'r mapiau ar gyfer yr holl Etholaethau yng Nghymru ar wefan Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Fel arall, gellir gweld cynigion Sir Gaerfyrddin yn y cyfeiriadau canlynol:

  • Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Uned A, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyddin, SA31 1GA.
  • Gwasanaethau Etholiadol, Bloc 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ
  • Llyfrgell Llanelli, Stryd Vaughan, Llanelli, SA15 3AS

Mae'r adolygiad hwn yn ymwneud â'r ffiniau seneddol ac nid y ffiniau lleol.

Dweud eich dweud

Os oes gennych unrhyw sylwadau, cyflwynwch nhw'n uniongyrchol i’r Comisiwn Ffiniau erbyn dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2022.

Cyngor a Democratiaeth