Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Bydd pleidleiswyr mewn 41 o ardaloedd heddlu yn Lloegr a Chymru (ac eithrio Llundain) yn ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer eu hardal heddlu ar 6 Mai 2021.
Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw cynrychiolwyr sy'n cael eu hethol i oruchwylio'r modd y rhoddir sylw i droseddau mewn ardal heddlu. Eu nod yw lleihau troseddau a sicrhau bod yr heddlu'n effeithiol. Maen nhw'n cael eu hethol am dymor o bedair blynedd.
Cyngor Sir Penfro yw'r awdurdod arweiniol, neu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu (PARO) ar gyfer Ardal Heddlu Dyfed-Powys, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae'r etholiadau hyn yn defnyddio'r system Bleidleisio Atodol lle y mae pleidleiswyr yn gallu nodi dewis cyntaf ac ail ddewis ar gyfer ymgeisydd.
Pan fydd y pleidleisiau ar gyfer y dewis cyntaf wedi'u cyfri, os nad oes gan unrhyw ymgeisydd y mwyafrif clir (mwy na 50%), yna bydd pleidleisiau'r ail ddewis ar gyfer y ddau ymgeisydd gorau yn cael eu cyfri. Yna bydd y pleidleisiau ar gyfer y dewis cyntaf a'r ail ddewis ar gyfer y ddau ymgeisydd hyn yn cael eu hadio, a bydd yr ymgeisydd â'r cyfanswm mwyaf yn ennill yr etholiad.
Bydd pob awdurdod lleol yn cyfri eu pleidleisiau eu hunain ac yn darparu'r rhain i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu Sir Benfro. Ar ôl casglu'r holl ganlyniadau, byddwn yn datgan pwy sydd wedi'i ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys a bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch Ymgeiswyr ac Asiantiaid sy'n ymwneud ag etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, anfonwch neges e-bost at electoralservices@pembrokeshire.gov.uk.
Mae gwefan bwrpasol ar gael sy'n darparu gwybodaeth hanfodol, sef: www.sir-benfro.gov.uk/etholiadau-a-phleidleisio
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
- Cyfansoddiad y Cyngor
- Cadeirydd 2020 - 21
- Swyddfa'r Crwner
- Arglwydd Raglaw
- Blog Arweinydd
- Blog Cadeirydd y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Bwrdd Gweithredol
- Penderfyniadau swyddogion
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
- Cyfarfodydd byw a rhithwir y Cyngor a rhai sydd i ddod
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2019-20
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2020
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru'r Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Etholiad Senedd Ewrop 2019
- Etholiadau Lleol 2017
- Etholiad Seneddol 2017
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Ymchwil ac Ystadegau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth