Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr
Gweithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth
Ym mis Chwefror 2019, cymerodd Cyngor Sir Caerfyrddin gam arloesol drwy ddatgan argyfwng hinsawdd, gan ymrwymo i ddod yn awdurdod carbon sero net erbyn 2030. Gan arwain drwy esiampl, Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu carbon sero net cynhwysfawr, a gymeradwywyd gan y cyngor llawn ym mis Chwefror 2020. Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn adlewyrchu ein rôl sylweddol o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ysbrydoli ein preswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill i ymuno â ni i leihau eu hôl troed carbon.
Rydym yn mabwysiadu dull ymarferol o gyflawni statws carbon sero net erbyn 2030, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ein hallyriadau carbon mesuradwy. Nid yw'r ffocws hwn yn eithrio mentrau eang eraill i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n cael eu gweithredu ar draws gwahanol adrannau'r Cyngor.
Gan fod dros dair miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol. Er na all unrhyw un endid frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn unig, gall pawb gyfrannu. Croeso i Weithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr: dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, rydym yn cydweithio â phartneriaid i greu dyfodol gwyrddach i'n sir. Dysgwch am straeon ysbrydoledig, awgrymiadau arferol ar gyfer dewisiadau gwyrdd bob dydd, a'r manteision amlochrog yn sgil y newidiadau hyn, o arbed costau a llesiant gwell i gadwraeth amgylcheddol a chymunedau lleol bywiog.
Gan fod dros dair miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol. Er na all unrhyw un endid frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn unig, gall pawb gyfrannu.
Beth ydym ni’n ei wneud
Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, rydym wedi ymrwymo i arwain drwy esiampl o ran cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd.
Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, rydym wedi ymrwymo i arwain drwy esiampl o ran cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd. Drwy fentrau fel prosiect Re:fit Cymru, rydym yn ôl-osod adeiladau cyngor yn systematig er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Ers 2016/17, mae'r ymdrechion hyn wedi arwain at ostyngiad trawiadol o 37% mewn allyriadau o'n hadeiladau annomestig, sydd ymysg y defnyddwyr ynni mwyaf yn ein hystâd.
Yn ein hymrwymiad i foderneiddio ein fflyd, rydym wedi integreiddio technolegau uwch i leihau allyriadau, gan gynnwys 7 car adrannol trydan, 3 lori sbwriel drydan, a 3 cherbyd hybrid.
Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ehangu galluoedd trydan a hybrid ein fflyd ymhellach yn y dyfodol. Drwy gwblhau'r broses o newid i oleuadau stryd LED yn 2011, mae lleihad sylweddol o 69% wedi bod mewn allyriadau carbon o oleuadau stryd. Mae mynd i'r afael ag allyriadau teithio busnes yn parhau i fod yn her, ond trwy strategaethau effeithiol, rydym wedi cyflawni lleihad nodedig o 41% mewn allyriadau ers 2016. Mae croesawu'r egwyddorion a amlinellir ym Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd Walk the Global Walk a blaenoriaethu bioamrywiaeth ac atebion sy'n seiliedig ar natur yn agweddau sylfaenol ar ein stiwardiaeth amgylcheddol. Yn ogystal, mae mentrau fel Egni Sir Gâr yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd sy'n cael ei yrru gan y gymuned, fel y dangosir gan ein portffolio ynni'r haul a gefnogodd fanciau bwyd lleol yn 2020.