Prosiect Refit:Cymru

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/12/2023

Mae cynllun Re:Fit Cymru yn fframwaith sy'n galluogi cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud eu hadeiladau a'u hasedau'n fwy effeithlon o ran ynni drwy sicrhau arbedion gwarantedig a lleihau allyriadau carbon trwy gael mynediad at Gontractau Perfformiad Ynni (EPCs).

Mae'r rhaglen yn defnyddio dull cyfannol o leihau ynni yn ein hadeiladau. Gan weithio gyda'r contractwr, Ameresco, rydym wedi cwblhau cam 1 y rhaglen lle cafodd mesurau effeithlonrwydd ynni, megis gosod solar PV, goleuadau LED, inswleiddio pibellau, optimeiddio boeleri a llawer mwy eu hymgorffori mewn 30 o'n hadeiladau.

Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy am Gam 1

 

Ar ôl y flwyddyn gyntaf o weithredu (Awst 21 i Awst 2022), mae'r prosiect wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae'r arbedion canlynol wedi'u gwneud:

£336,261
2,677,274 kWhs o ynni
800.5 tCO2e

Mae hyn yn llawer mwy o arbedion na'r hyn a ragwelwyd.

Mae Cam 2 y rhaglen yn cael ei gwmpasu ar hyn o bryd ac yn argoeli i fod yn llawer mwy uchelgeisiol, gan ymgorffori nifer fwy o'n hadeiladau a mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni i gynhyrchu mwy o arbedion.

Gwneir y gwaith effeithlonrwydd ynni hyn i gyd yn bosibl trwy ddefnyddio benthyciadau di-log Salix Finance. Drwy'r rhaglen Re:Fit, ad-delir y benthyciadau gan yr arbedion a wnaed trwy weithredu'r mesurau effeithlonrwydd ynni, gan wneud hwn y dull mwyaf hyfyw o leihau ynni yn ein hadeiladau.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau