Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Deilliant 5 - Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

Ble rydym ni nawr?

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Mae ein gweledigaeth fel a ganlyn:- 'Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd dwyieithog sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi pob diwylliant a thraddodiad.’

Mae datblygu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cyngor Sir fel y nodir yn ‘Strategaeth Hybu’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin’ gyda’r bwriad o ‘Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.’ Mae’n dra amlwg fod gan addysg ran greiddiol i’w chwarae wrth hybu’r nod y Strategaeth Hybu ac mae Rheolwr Iaith Gymraeg yr Adran Addysg a Phlant yn ddolen bwysig gyda’r Fforwm Iaith Sirol wrth sicrhau fod gweithredu’r CSGA yn alino gyda’r Strategaeth Hybu ac yn ei chefnogi.

Mae nod penodol yn y strategaeth 5 mlynedd sef ‘Cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ac felly defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ac annog a chefnogi sefydliadau’r sir i wneud y Gymraeg yn gynyddol yn gyfrwng naturiol eu gwasanaethau’.

Mae ein hamcanion ar gyfer 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn yn mynd i’r afael â’r her o sicrhau ystod o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol.

O ran natur ieithyddol ysgolion Sir Gaerfyrddin mae nifer uchel ohonynt yn gweithredu’n ddwyieithog yn barod.

 

Ysgolion Sir Gaerfyrddin (pob sector)

 

  1. Cyfrwng Cymraeg: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Defnyddir y Gymraeg fel iaith cyfathrebu â'r disgyblion ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  2. Dwy ffrwd: Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg yng ngwaith beunyddiol yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  3. Trosiannol: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu naws Gymreig. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  4. Dwyieithog Math A: Addysgir o leiaf 80% o'r pynciau ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl. Addysgir un neu ddau o bynciau i rai disgyblion yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
  5. Dwyieithog Math B: Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg ond hefyd cânt eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
  6. Saesneg gyda Chymraeg arwyddocaol: Cyd-destun ieithyddol yr ysgol sy'n pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith fel ieithoedd cyfathrebu â'r disgyblion, rhieni ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol.
  7. Cyfrwng Saesneg: Saesneg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol, ond defnyddir peth Cymraeg hefyd fel iaith cyfathrebu â’r disgyblion. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
  8. Amherthnasol (Ysgolion Meithrin ac Arbennig)

Mae Siarter Gymraeg wedi bod yn weithredol yn Sir Gaerfyrddin ym mhob ysgol gynradd ers lansio 'Codi Caerau' yn 2016 fel siarter Cymraeg 1af ac Ail Iaith. Mae'r Siarter Iaith yn pwysleisio manteision cryfhau meddu’r Gymraeg drwy ddefnyddio ac ymarfer yr iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Rydym wedi treialu y Siarter Iaith Uwchradd mewn 2 ysgol a'n bwriad yw cyflwyno hyn ar draws pob Ysgol Uwchradd. Rhoddir adroddiadau llawn wrth i ysgolion weithio tuag at ennill eu gwobrau Efydd, Arian ac Aur. Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad â'n cydweithwyr Partneriaeth i gynllunio a rhannu adnoddau.

 

O ran y Siarter cynradd rydyn wedi sicrhau’r canlynol (2022) –

Cyfrwng Cymraeg Gweithio tuag at Wedi cyflawni
Gwobr Efydd -------- 100%
Gwobr Arian 62% 37%
Gwobr Aur 37% 7.5%

 

Cyfrwng Ail Iaith Gweithio Tuag at Wedi cyflawni
Gwobr Efydd 25% 75%
Gwobr Arian 75% 22%
Gwobr Aur 100% ----

 

Ar hyn o bryd, mae nifer helaeth o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau’r Urdd,
  • Clybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg drwy weithio gyda’r Mentrau Iaith,
  • Gweithdai radio
  • Ffilmio syniadau am wersi i hyrwyddo’r celfyddydau mynegiannol i gyd fynd gyda’r gwaith ym mhecyn Sir Gâr
  • Sachau Siarter Iaith ar gyfer diwrnod dilysu
  • Creu phecyn rhythm a dawns - hyrwyddo y celfyddydau mynegiannol-drama cerddoriaeth, celf ,dawns i gyd fynd gyda chwedlau’r sir a hanes lleol a’u ffilmio
  • Gemau ee, Cymru ar fap x 66 i gyd fynd gyda adnoddau’r tîm datblygu’r Gymraeg
  • Cydweithio ar becyn o syniadau a gweithgareddau gyda chwmni Sgiliau- ar gyfer Iaith gyntaf ond yn bennaf ail iaith yn gyflwyno patrymau ieithyddol i gyd fynd â sgiliau chwaraeon
  • Sgriptio a pherfformio monologau addas i ddisgyblion ail iaith ar gyfer Pecyn Sir Gâr
  • Cefnogi gemau geiriol yn yr ardal allanol CS
  • Gemau bwrdd amser chwarae gwlyb fel y gallwn baratoi cyfarwyddiadau Cymraeg ar Screen Castify ( ail iaith).
  • Sesiynau rhithiol gyda darparwyr amryw allanol

 

  • 2026-2027

    • Byddwn yn cefnogi ysgolion ac yn gweithio gyda phartneriaid i fapio a datblygu cyfleoedd pellach i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol.
    • Byddwn yn canolbwyntio ar ein 34 ysgol Saesneg / Saesneg gyda defnydd arwyddocaol o Gymraeg
    • Ymestyn Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd i bob ysgol uwchradd gan anelu at 9 ysgol yn cyrraedd y wobr Efydd erbyn 2027 a 5 ysgol yn cyflawni Arian/Aur o fewn yr un cyfnod
    • Byddwn yn gweithio gyda cholegau Addysg Bellach i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar draws pob maes dysgu yn cael ei rhoi gan gynnwys prentisiaethau.
    • Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr ac addysg uwch i hyrwyddo dwyieithrwydd fel sgil allweddol ar gyfer addysg bellach a'r byd gwaith.
    • Datblygu cyfleoedd ymhellach i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau anffurfiol (e.e. gwirfoddoli, Dug Caeredin, Clybiau Ieuenctid).
    • Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i gyfraniad chweched dosbarth, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau at lwyddiant y Cynllun Strategol, lle bo hynny’n berthnasol
    • Hyrwyddo gwell sgiliau ar gyfer defnydd gydol oes o'r Gymraeg.
    • Gan weithio gyda'r gwasanaethau cymorth Ieuenctid, yr Urdd, Mentrau Iaith a CFfI byddwn yn mapio'r cyfleoedd presennol sydd ar gael i blant oedran ysgol ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
    • Byddwn yn cefnogi gweithgareddau Menter Iaith y Sir a sicrhau fod gweithgareddau trefol/cymunedol yn ddwyieithog a bod y Cyngor yn cefnogi hyn ac yn cynorthwyo busnesau/grwpiau er mwyn sicrhau hyn.
    • Mae’r CSGA’n plethu mewn i Strategaeth Hybu Sir Gaerfyrddin. Gweledigaeth hirdymor y Strategaeth Hybu yw anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.

     

    Yn Ebrill 2016, daeth Safonau Iaith Cyngor Sir Caerfyrddin i rym. Ar ôl cyfnod o ymgynghori ac o baratoadau, cyflwynwyd 174 o Safonau gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a fyddai bellach yn cael ei reoleiddio gan y Comisiynydd. Disodlwyd Cynllun Iaith y Cyngor felly a derbyniwyd y Safonau yn fframwaith newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pum maes gwaith isod: 1) cyflenwi gwasanaethau Cymraeg, 2) llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, 3) gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, 4) cadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg ac yn olaf 5) hybu’r Gymraeg.

    Mae’r strategaeth hybu yn adnodd gwerthfawr i’n cynorthwyo i gydgynllunio, i gydweithio ac i dargedu adnoddau er mwyn cyrraedd y 5 amcan isod:

    1. Cynyddu niferoedd sy’n caffael sgiliau sylfaenol a sgiliau pellach yn y Gymraeg drwy’r system addysg a thrwy drosglwyddo iaith yn y cartref;
    2. Cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ac felly ddefnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ac annog a chefnogi sefydliadau’r sir i wneud y Gymraeg yn gynyddol yn gyfrwng naturiol eu gwasanaethau;
    3. Cymryd camau pwrpasol i effeithio’n gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth gan geisio denu’n pobl ifanc i sefydlu neu i ail-ymsefydlu yn y sir fel na gollir y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg a enillir drwy’r drefn addysg. Yn ogystal, gwneud ymdrechion sylweddol i gymathu mewnfudwyr a sicrhau nad ydy datblygiadau cynllunio newydd yn cael effaith andwyol ar hyfywedd y Gymraeg;
    4. Targedu ardaloedd daearyddol penodol o fewn y sir, naill ai am eu bod yn cynnig potensial i ddatblygu neu yn achosi pryder yn ieithyddol, i gynyddu niferoedd sy’n medru ac yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny;
    5. Marchnata a hyrwyddo’r iaith. Codi statws y Gymraeg gan gynnwys manteision dwyieithrwydd a manteision addysg ddwyieithog. A thrwy godi ymwybyddiaeth o’r manteision hyn, denu mwy o drigolion y sir i gaffael yr iaith
      Strategaeth Hybu’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin 2016- 2021
    • Hyrwyddo diwrnodau iaith sy'n benodol i'r farchnad e.e. Diwrnod Shwmae? ynghyd â thynnu sylw at ddarparwyr allanol sy'n cynnig sbectrwm o syniadau gwahanol h.y. Awduron, Cynllun Beirdd Plant a'r Platfform AM.
    • Annog ysgolion i ddefnyddio Cymraeg Bob Dydd- rhaglen sy'n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg/ Dwyieithog ymestyn eu defnydd o'r Gymraeg. Mae'r Urdd yn gweithredu'r rhaglen ac yn trefnu gweithgareddau er mwyn meithrin hyder disgyblion yn y Gymraeg, cynyddu eu defnydd o'r iaith, a'u hannog i barhau i astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon UG a Safon Uwch.
    • Ar hyn o bryd mae 18 (27%) o staff Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gweithredu ar Lefel Uwch/Hyfedredd Byddwn yn ymestyn hyfedredd iaith gweithwyr o fewn y gwasanaeth hwn, yn enwedig mewn ysgolion (35% Uwch/Hyfedredd) er mwyn hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg
    • parhau i ddatblygu deunydd hyrwyddo sy'n dangos y gwerth a roddir ar ddwyieithrwydd gan gyflogwyr.
  • 2031-2032

    • Bydd y Siarter Iaith wedi ei ymgorffori ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd gan arwain at gynyddu’r ethos Cymraeg yn yr holl ysgolion.
    • Bydd ysgolion uwchradd wedi cynyddu'r defnydd o Gymraeg achlysurol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio y tu allan i'r ystafelloedd dosbarth.
    • Gyda hyder dysgwyr yn cynyddu a’u diddordeb yn y Gymraeg bydd mwy o bynciau'n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Bydd gwell dealltwriaeth o hanes lleol, hanes Cymru a diwylliant Cymru yn dod i'r amlwg drwy'r cwricwlwm newydd.
    • Byddwn wedi cyflawni ein nod o godi statws y Gymraeg a gwneud disgyblion yn falch o gael eu hiaith eu hunain ac felly eu hunaniaeth yn y byd.
  • Data Allweddol

    Disgyblion fydd yn manteisio ar weithgareddau o dan adain y Siartr Iaith – lefel Efydd fel gwaelodlin

    Cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

    2022-2023 2026-2027 2031-2032
    Cynradd 14077 89% Cynradd 14944 94.5% Cynradd 15812 100%
    Uwchradd 4790 42% Uwchradd 8623 75% Uwchradd 11498 100%