Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
Yn yr adran hon
- Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
- Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella'r cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal
- Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 3 - Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
- Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 5 - Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
- Deilliant 6 Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)
- Deilliant 7 Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg
- Sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein gweledigaeth
- Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’
Deilliant 6 Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)
Ble rydym ni nawr?
Mae ein gweledigaeth fel a ganlyn:- 'Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd dwyieithog sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi pob diwylliant a thraddodiad.'
Fe gyflwynwyd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) ym mis Ionawr 2018 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol i gadw’r trefniadau ar gyfer cefnogi dysgwyr rhwng 0 a 25 oed gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol o dan adolygiad ac ystyried a yw’r trefniadau hyn yn ddigonol. Mae’n cynnwys gofyniad statudol i gymryd camau rhesymol i greu system o gefnogaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr gydag ADY.
Rydyn yn ymrwymedig i gynhwysiant ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog i’n dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bwriad yr Adran Gynhwysiant yw parhau i ddarparu gwasanaethau a darpariaethau o ansawdd uchel yn ddwyieithog er mwyn bodloni anghenion teuluoedd a phobl ifanc h.y. os mai'r dewis yw i wasanaethau a darpariaethau gael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae gan yr adran y gallu i gyflawni hyn i safon uchel.
Nodau Strategol:
- Sicrhau bod darpariaeth gyflawn ar gael i bob dysgwr ag ADY ym mhob lleoliad a gwasanaeth.
- Sicrhau, drwy drefniadau partneriaeth effeithiol, bod angen y dysgwr am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel ranbarthol a lleol yn cael ei ddiwallu.
- Sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn gallu cael mynediad i ddarpariaeth yn eu dewis iaith, wrth gefnogi eu taith tuag at ddwyieithrwydd.
- Parhau i ddatblygu system ddwyieithog i ymateb i'r agenda diwygio ADY
- Gweithio gyda'n Tîm Cymorth Ymddygiad ac Ysgolion/Unedau Arbennig i ddatblygu darpariaeth ddwyieithog ymhellach.
- Datblygu sgiliau ein Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol ymhellach i gefnogi dysgwyr.
Yn Sir Gâr rydym yn gallu diwallu anghenion ein dysgwyr mewn amryw o ffyrdd-
- Bydd y mwyafrif o’n dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi’n ein hysgolion prif ffrwd.
- Bydd yr ysgolion yn penodi staff addas i gefnogi dysgwyr unigol o fewn eu dosbarthiadau a bydd y Cydlynwyr Anghenion Ychwanegol yn sicrhau ymyrraeth briodol.
- I’r dysgwyr ag anghenion mwy dwys/cymhleth mae gennym ystod o Unedau sydd wedi eu lleoli yn ein hysgolion prif ffrwd.
- Mae gennym Uned Gyfeirio Disgyblion ac Ysgol Arbennig sef Heol Goffa.
- Bydd y Tîm Cynhwysiant yn cefnogi ysgolion ac unedau arbennig er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr.
Yng nghyfnod y cynllun blaenorol mae Cyngor Sir Gâr wedi:
- Cynyddu’r nifer o staff ymgynghorol sy’n gallu cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Sicrhau bod gennym weithlu yn gynyddol yn gallu darparu cyngor, cymorth a gwasanaethau ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg. Hyrwyddir hyn gan gynllun
- corfforaethol i uwch-sgilio staff yr adran yn ieithyddol, ynghyd â chynllun arall i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr adran.
- Galluogi rhieni i gael cymaint neu gyn lleied o fewnbwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddarpariaeth, y gwasanaeth a'r cymorth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Darparu hyfforddiant dwyieithog i holl staff perthnasol o ran y diwygiadau ADY sydd ar waith.
Y sefyllfa gyfredol
Canran o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (Sir gyfan)
Data Medi 2021 | Datganiadau | Gweithredu Ysgol | Gweithredu Ysgol + | Cyfanswm |
Cynhradd | 1.8% | 16.8% | 9.7% | 23.3% |
Uwchradd | 3% | 17.2% | 8.8% | 29% |
Nifer o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Data Medi 2021 | Datganiadau | Gweithredu Ysgol | Gweithredu Ysgol + | Cyfanswm |
Sir Gâr | 719 | 4079 | 2360 | 7158 |
Nifer o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg
Data Medi 2021 | Datganiadau | Gweithredu Ysgol | Gweithredu Ysgol + | Cyfanswm |
Ysgolion Cymraeg | 315 | 2120 | 1120 | 3555 |
Ysgolion saesneg | 300 | 1955 | 1195 | 3450 |
O ran dyraniad anghenion ar draws ysgolion maent yn eithaf cytbwys o ran y nifer sydd yn y sector Gymraeg a’r sector Saesneg.
Ar gyfer hyfedredd staff yr Adran Gynhwysiant ac Adran Seicolegwyr Addysg - gweler deilliant 7.
Targedau
- Er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr ag anghenion ychwanegol, cynnal a datblygu ymhellach gweithlu canolog anghenion dysgu ychwanegol sy’n gallu cefnogi a gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg- cynnydd o nawr 7 (34%) uwch/hyfedr i 13 (63%).
- Yn yr un modd byddwn yn gweithio gyda’n Hysgolion/Unedau i gynyddu’r nifer o staff sy’n gallu cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg. (Gweler deilliant 7).
- Nid oes gan ein Hunedau/Ysgol Heol Goffa ddynodiad ieithyddol a byddwn yn anelu i sicrhau y bydd dysgwyr sy’n mynychu’r gwasanaethau yma yn derbyn cymorth ieithyddol priodol.The allocation of needs across schools are quite balanced in terms of the number in the Welsh and English sectors.
-
2026-2027
Byddwn yn gweithio i weithredu agweddau ar y CSGA yn unol â Chynllun Strategol Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Sir Gaerfyrddin. Mae dwyieithrwydd bellach yn thema gyffredinol ar draws y cynllun cyfan. Mae’r datganiadau canlynol yn berthnasol i’r deilliant hwn-
- Gan fod cyfran uchel o'n hysgolion yn ddwyieithog gallwn fodloni ceisiadau am ddarpariaeth addysg brif ffrwd yn amserol.
- Mae'r holl wasanaethau cymorth a phrosesau statudol ar gael yn ddwyieithog ac rydym yn darparu hyfforddiant a chymorth i Gydlynwyr ADY er mwyn iddynt allu diwallu anghenion pob dysgwr.
- Mae pob ymyriad ar gael yn ddwyieithog ac rydym yn ymrwymo i sicrhau bod yr holl adnoddau a ddatblygir yn Sir Gaerfyrddin ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Byddwn yn parhau i fonitro ceisiadau am gymorth arbenigol ac yn gweithio gydag arweinwyr ysgolion, Cydlynwyr ADY a swyddogion cynhwysiant i nodi meysydd i’w datblygu ac ymgorffori'r datblygiadau hyn yn ein cynllun moderneiddio ysgolion.
- Byddwn yn adlewyrchu'r ffordd newydd o weithio a chefnogi dysgwyr ag ADY gan sicrhau bod y dull ar gael yn ddwyieithog.
- Rydym yn darparu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg a Saesneg drwy unedau arbenigol sy'n gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod gofynion iaith Dysgwyr ADY cymhleth yn cael eu bodloni.
- Mae pob lleoliad ADY yn gweithio tuag at Dargedau Iaith y Siarter Iaith gyda chymorth Tîm Athrawon Datblygu'r Gymraeg.
Roedd gweithgaredd map a bwlch a gwblhawyd yn ddiweddar ar lefel dwyieithrwydd ar draws y gwasanaeth yn ymarfer cadarnhaol. Yn deillio o hyn-
- Byddwn yn gweld gofyniad ystod o asesiadau safonedig yn y Gymraeg yn flaenoriaeth i sefydlu llinell sylfaen iaith yn effeithiol.
- Gallem ychwanegu at y ffaith ein bod wedi datblygu ein hasesiadau ein hunain sy'n seiliedig ar asesiadau athrawon Chat sydd yn cael eu defnyddio gan yr ysgol i gefnogi a sgaffaldio datblygiad y Gymraeg i bob plentyn.
- Lle nodir anghenion iaith penodol, mae angen cymorth yn y famiaith i fynd i'r afael â'r angen a chefnogi datblygiad yr iaith ychwanegol yn y dyfodol.
-
2031-2032
- Cyn dyddiad gorffen ein cynllun 10 mlynedd byddwn mewn sefyllfa i allu darparu cydraddoldeb darpariaeth Gymraeg a gwasanaeth gwirioneddol ddwyieithog i bob disgybl yn Sir Gaerfyrddin.
- Byddwn yn darparu hyfforddiant i Gydlynwyr ADY a swyddogion Anghenion Amgen er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r iaith.
- Byddwn yn parhau i ymchwilio i'r effeithiau ar addysg ddwyieithog i ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg sydd ag anghenion dysgu.
- Byddwn yn parhau i sicrhau bod lefelau staffio dwyieithog yn galluogi'r sir i gefnogi'r twf disgwyliedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg.