Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Pwrpas
- Egwyddorion
- Cwmpas
- Deddfwriaeth, Polisi a Chanllawiau
- Cyd-destun Strategol
- Llywodraethu
- Rolau a Chyfrifoldebau
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant
- Atodiad 1 parhad - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Deddfwriaeth, Polisi a Chanllawiau
Mae'r ddeddfwriaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr amryw Ddeddfau a enwir isod yn sefydlu’r hawl i bobl gael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin. Y man cychwyn cyfreithiol i gyflawni’r amcan hwn yw dyletswydd gweithwyr proffesiynol i roi gwybod am honiadau o gam-drin ac esgeuluso. Mae’r gyfraith hefyd yn enwi’r Awdurdod Lleol fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer gwneud ymholiadau i ganfod p'un a yw unigolyn mewn perygl ac i gydlynu’r ymateb i’w amddiffyn. Yn ymarferol nid yw hyn byth yn cael ei gyflawni ar ei ben ei hun na heb arweinyddiaeth glir ac atebolrwydd am y gwaith, sydd yn yr un modd wedi’i nodi mewn cyfraith, ynghyd â’r ddyletswydd i gydweithredu a chydweithio ag eraill.
Mae’r Cyngor yn cydnabod bod arferion da mewn diogelu yn dwyn ynghyd yr holl weithgarwch sydd wedi’i fwriadu i hybu arferion diogel ac atal pobl rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Am y rheswm hwn, ac oherwydd bod y gyfraith, polisi, canllawiau a rheoliadau yn newid o bryd i'w gilydd, mae'n amhosibl darparu rhestr gynhwysfawr o ddeddfwriaeth berthnasol a dogfennau cysylltiedig ond rhestrir y rhai mwyaf arwyddocaol isod:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Addysg 2002 – ynghyd â "Cadw Dysgwyr yn Ddiogel" – Rôl Awdurdodau Lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol dan Ddeddf Addysg 2002
- Deddf Plant 1989 a 2004
- Adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019
- Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Deddf Tai 2004
- Deddf Trwyddedu 2003
- Deddf Hawliau Dynol 1998
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)
- Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Hawliau Dynol
- Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
- Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
Bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei arferion yn cydymffurfio â’r polisïau a’r gweithdrefnau canlynol:
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chodau Ymarfer, Canllawiau a Rheoliadau cysylltiedig.
- Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl cyfrol 5: ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn plant sy’n wynebu risg3
- Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 6 – ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn oedolion sy’n wynebu risg4
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Diogelu Corfforaethol - Canllaw Arferion Da5
- Polisi Datgelu Camarfer Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Safonau Ymddygiad Cyngor Sir Caerfyrddin
- Côd Ymddygiad Cyngor Sir Gaerfyrddin
Dylai gweithwyr a chynghorwyr hefyd weithredu yn unol â’r Côd Ymddygiad proffesiynol perthnasol. Y bwriad yw y bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol yn ategu ac nid yn disodli unrhyw gyfrifoldebau sydd eisoes wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, polisi neu ganllawiau a nodir uchod neu rywle arall. Rhaid i'r rheiny sy'n defnyddio'r polisi hwn fod yn ymwybodol o newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, polisi a rheoliadau a allai fod wedi digwydd ar ôl cyhoeddi'r ddogfen hon.
3Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 5
4Ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn oedolion syn wynebu risg - Cyfrol 6
5Diogelu Corfforaethol Canllaw Arferion Da (wlga.cymru)