Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Rolau a Chyfrifoldebau

Y Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant) sy'n gyfrifol am dderbyn ac ymateb i bryderon ynghylch plant a'r Gwasanaethau Oedolion sy'n gyfrifol am dderbyn ac ymateb i bryderon ynghylch oedolion sydd mewn perygl. Fodd bynnag, mae pob aelod o staff y Cyngor yn gyfrifol am ddiogelu.

Mae dyletswydd ar yr holl weithwyr, cynghorwyr a gwirfoddolwyr i roi gwybod am bryderon am gam-drin ac esgeuluso. Nid mater o ddewis personol yw hyn.

Mae gan y rôl, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, gyfrifoldeb terfynol ac anwahanadwy dros faterion diogelu, i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl. Cyflawnir y rôl hon gan Gyfarwyddwr Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol atebolrwydd cyfreithiol dros sicrhau bod gan y Cyngor fesurau diogelu priodol ar waith i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl, ac mae'n Gadeirydd ar y Grŵp Diogelu Corfforaethol.

Mae'r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am adrodd ar effeithiolrwydd y trefniadau hyn ar lefel gorfforaethol wrth y Prif Weithredwr, y Tîm Uwch-reolwyr, y Cabinet a'r Cyngor.

Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r pwynt cyswllt i bob Cyfarwyddwr arall roi gwybod am bryderon diogelu difrifol, a allai ddigwydd yn eu maes gwasanaeth.

Mae Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd, gan gynnwys adrodd wrth y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet Arweiniol yn ôl yr angen. Lle bo hynny'n briodol, gellir rhoi gwybod am feysydd sy'n peri pryder i'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol yn eu lle, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau, bod y polisïau a’r gweithdrefnau hynny’n cael eu gweithredu, bod trefniadau llywodraethu effeithiol yn eu lle a bod yr holl ofynion statudol yn cael eu cyflawni.

Trwy gyfarfodydd un-i-un gyda Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, daw'r Prif Weithredwr i wybod am faterion diogelu perthnasol.

Mae gan Arweinydd y Cyngor ymrwymiad clir i ddiogelu; fodd bynnag, ym mhortffolio'r aelod cabinet arweiniol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y mae'r prif gyfrifoldeb dros ddiogelu plant ac oedolion a diogelu corfforaethol.

Arweinydd y Cyngor sy'n gyfrifol yn gyffredinol am ddarparu arweinyddiaeth wleidyddol i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau dros ddiogelu.

Mae'r Aelod Cabinet Arweiniol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu fel arweinydd ar gyfer pob agwedd ar Ddiogelu Corfforaethol.

Bydd yr Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion diogelu corfforaethol perthnasol. Bydd hefyd yn mynd i gyfarfodydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol.

Bydd yr Aelod Arweiniol yn cael cyfarwyddyd ynghylch unrhyw achosion sensitif a allai gael eu hystyried ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant neu Oedolion neu a allai ddod yn fater o ddiddordeb cyhoeddus fel arall.

Bydd yr Aelod Arweiniol yn cydweithio’n agos ag ystod o Uwch-swyddogion yn yr Awdurdod ac yn cael cyngor proffesiynol ganddynt, fel y bo’n briodol. Bydd yr Aelod Arweiniol yn cysylltu ac yn ymgynghori ag Aelodau Cabinet eraill ynghylch materion unigol sy’n debygol o effeithio ar eu portffolios fel a nodir yng Nghynllun Dirprwyo’r Cyngor.

Bydd Aelodau'r Cabinet yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod yna ymwybyddiaeth a dealltwriaeth briodol o unrhyw faterion diogelu corfforaethol yn eu meysydd Portffolio perthnasol.

Bydd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi cyfarwyddyd i aelodau perthnasol o'r cabinet ynghylch effeithiolrwydd trefniadau amddiffyn oedolion/amddiffyn plant ac achosion sensitif, a allai ddod yn destun adolygiad o ymarfer oedolion neu ymarfer plant neu a allai ddod yn fater o ddiddordeb cyhoeddus fel arall.

Rhaid i bob aelod etholedig ymgyfarwyddo â'r Polisi hwn, dilyn hyfforddiant ar eu cyfrifoldebau a gofyn am gyngor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol os nad ydynt yn glir ynglŷn â'u cyfrifoldeb dros ddiogelu.

Bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol yn cael ei gyfleu fel rhan o'r rhaglen ymsefydlu orfodol ar gyfer pob aelod etholedig newydd.

Disgwylir i bob aelod etholedig ddilyn hyfforddiant mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac unrhyw flaenoriaethau ychwanegol yn ymwneud â hyfforddiant diogelu.

Dyletswyddau aelodau etholedig fydd cadw plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl, yn ddiogel trwy:

  • Sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd dros ddiogelu.
  • Cyfrannu at greu a chynnal amgylchedd diogel.
  • Hyrwyddo arferion diogel a herio arferion gwael neu anniogel.
  • Nodi lle mae pryderon a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw.

Mae'r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau effeithiolrwydd y trefniadau diogelu o fewn eu priod gyfarwyddiadau.

Maent yn gyfrifol am roi gwybod i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am unrhyw bryderon diogelu difrifol a allai godi yn eu cyfarwyddiaethau. Byddant yn rhoi cyfarwyddyd i'w Haelodau Cabinet priodol am unrhyw faterion diogelu ac am effeithiolrwydd cyffredinol y trefniadau diogelu ac yn sicrhau bod arweinydd adrannol yn chwarae rôl lawn yn nhrefniadau llywodraethu'r awdurdod.

Mae'r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithlu o fewn eu Cyfarwyddiaethau wedi'u hyfforddi'n briodol i nodi ac ymateb i bryderon diogelu.

Mae'r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt weithdrefnau gweithredol diogelu ar waith a bod Archwiliadau Hunanwerthuso Diogelu yn cael eu cynnal ar gyfer y meysydd gwasanaeth perthnasol o fewn eu Cyfarwyddiaeth.

Mae'n ofynnol i gyfarwyddwyr roi gwybod i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol am risgiau diogelu yn eu maes gwasanaeth ac effeithiolrwydd trefniadau diogelu eu cyfarwyddiaeth.

Bydd pob cyfarwyddiaeth yn penodi Pennaeth Gwasanaeth fel Arweinydd Diogelu Dynodedig ar gyfer eu maes gwasanaeth priodol. Drwy eu Timau Rheoli byddant yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau bod yr holl ofynion statudol o ran diogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion yn cael ystyriaeth ddyledus.

Rhaid i bob Pennaeth Gwasanaeth sicrhau, lle dynodir y swyddi hynny fel gweithgarwch a reoleiddir, bod eu staff yn cael eu gwirio trwy weithdrefnau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac yn cydymffurfio â’r Polisi a Chanllawiau ar gyfer Diogelu Plant ac Oedolion.

Rhaid i bob Pennaeth Gwasanaeth sefydlu trefniadau i sicrhau bod staff yn cydymffurfio â gofynion y polisi hwn.

Dylai pawb wybod â phwy y dylid cysylltu yn eu sefydliad i gael cyngor ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon, pa mor ddibwys bynnag y gallant ymddangos. Er y dylid gwneud pob ymdrech i gysylltu â'r Arweinydd Diogelu Dynodedig, gall unrhyw un gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol. Mae'n ofynnol i bob maes gwasanaeth o fewn y Cyngor enwebu Arweinydd Diogelu Dynodedig ar gyfer delio â materion diogelu plant ac oedolion. Yn Sir Gaerfyrddin mae'r person yma yn Bennaeth Gwasanaeth. Mae'n gyfrifol am:

  • Gweithredu fel ffynhonnell gyffredinol ac allweddol o gyngor a chymorth i staff eraill yn eu Gwasanaeth ar bob mater sy'n ymwneud â diogelu
  • Sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i alluogi staff i gael cyngor a chymorth ymarfer ar gyfer diogelu o ddydd i ddydd gan eu rheolwyr llinell
  • Cynorthwyo staff i atgyfeirio neu gymryd rôl arweiniol wrth roi gwybod am bryderon diogelu i'r Gwasanaethau Cymdeithasol fel y bo'n briodol
  • Bod yn gyfarwydd â Pholisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor a Gweithdrefnau Diogelu Cymru fel y maent yn berthnasol i ddiogelu Plant ac Oedolion
  • Sicrhau bod y gweithdrefnau gweithredol ar gyfer diogelu o fewn y gyfarwyddiaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau statudol ac yn cael eu cyhoeddi i'r holl staff
  • Cynrychioli eu maes gwasanaeth yn y Grŵp Diogelu Corfforaethol
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a chanllawiau yn eu maes gwasanaeth a rhoi gwybod am hyn i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol
  • Mynd ar hyfforddiant perthnasol
  • Sicrhau bod aelodau o'r gweithlu yn eu Gwasanaethau yn dilyn hyfforddiant ar lefelau sy'n briodol i'w rolau a'u swyddogaethau a chynnal gwybodaeth reoli ar yr hyfforddiant a ddilynir ganddynt
  • Sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu hamlygu drwy brosesau ymsefydlu staff, cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a sesiynau cyfarwyddo staff
  • Sicrhau bod archwiliadau diogelu yn cael eu cwblhau'n rheolaidd

Bydd gan bob Awdurdod Lleol uwch-reolwr dynodedig sy'n gyfrifol am ddiogelu sy'n atebol ac yn gyfrifol am honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol a'r rheiny sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Y teitl a roddir i'r rôl yw Swyddog Dynodedig Awdurdod Lleol (LADO). Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin Swyddog Dynodedig Awdurdod Lleol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Swyddog Dynodedig Awdurdod Lleol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion. Bydd y Swyddog Dynodedig Awdurdod Lleol hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau plant ac oedolion i roi cyngor ac arweiniad ar ddiogelu.

Mae pob rheolwr llinell/goruchwyliwr yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithlu y mae'n gyfrifol amdanynt (gan gynnwys asiantaethau, ymgynghorwyr a gwirfoddolwyr) yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt, yn unol â'r Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol, sy'n gymesur â'i rôl a'i gyfrifoldebau. Gofal Cymdeithasol Cymru | Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.

Rhaid i reolwyr fynd ati i ddadansoddi lle mae'r risgiau i ddiogelu yn fwyaf tebygol o godi yn eu gwasanaeth(au) a sicrhau bod ganddynt weithdrefnau gweithredol priodol a systemau ategol ar waith i reoli'r rhain yn dda.

Rhaid iddynt sicrhau bod diogelu yn rhan o drefn ymsefydlu pob gweithiwr / gwirfoddolwr a nodi unrhyw un sy’n debygol o ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion sydd mewn perygl fel rhan o’i rôl. Rhaid iddynt sicrhau, lle bo angen, bod gwiriadau DBS yn cael eu cynnal ar y lefel briodol.

Dylai diogelu fod yn eitem safonol ar gyfer goruchwylio staff a chyfarfodydd tîm.

Rhaid i reolwyr sicrhau bod pob gweithiwr/gwirfoddolwr yn ymwybodol o sut i roi gwybod am bryderon ynghylch diogelu ac i bwy y dylent roi gwybod a'u bod yn ymwybodol o Bolisi Datgelu Camarfer y Cyngor.

Mae rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr/gwirfoddolwyr yn ymwybodol bod rhaid iddynt ymddwyn mewn modd sy’n diogelu ac sy'n hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Rhaid i reolwyr roi canllawiau i weithwyr/gwirfoddolwyr ynghylch ymateb i bryderon diogelu fel y bo’n ofynnol.

Rhaid i reolwyr sicrhau bod contractau a chytundebau yn bodloni gofynion y Cyngor am hyfforddiant, ymsefydlu a chanllawiau a bod monitro parhaus yn digwydd i sicrhau cysondeb parhaus â gofynion y contract.

Bydd Comisiynwyr yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau contractiol yn nodi cyfrifoldebau o ran diogelu yn unol â'r Polisi a threfniadau comisiynu presennol.

Wrth gomisiynu gwasanaethau, rhaid ystyried yn ofalus pa fesurau diogelu sy'n ofynnol gan gontractwyr neu ddarparwyr gwasanaethau. Er enghraifft:

  • Gwiriadau DBS ar y lefel briodol - disgwylir y bydd gwiriadau DBS ar waith ar gyfer unrhyw wasanaethau cludiant a gomisiynir
  • Polisïau diogelu
  • Hyfforddiant diogelu
  • Ymarfer cadwyn gyflenwi foesegol
  • Polisi caethwasiaeth fodern

Byddai hyn yn berthnasol i wasanaethau lle mae contractwyr yn debygol o ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl a gall ffurfio rhan o'r trefniadau rheoli contractau.

Mae gan Reolwyr Contractau (a all hefyd fod yn gomisiynwyr) gyfrifoldeb i sicrhau bod darparwyr yn cadw at y cynigion a'r gofynion a nodir mewn contractau neu Gytundebau Lefel Gwasanaeth yn barhaus trwy gyfnod y contract, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau newydd e.e. newidiadau mewn deddfwriaeth neu ganllawiau a'u cyfleu trwy ddigwyddiadau rheoli contractau.

Mae contractwyr hefyd yn gyfrifol am hysbysu rheolwyr perthnasol yn y Cyngor ynghylch unrhyw bryderon a allai fod ganddynt, a rhoi gwybod am bryderon ynghylch diogelu i'r adran Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion neu Blant.

Mae gan bob maes gwasanaeth yn y Cyngor rôl i'w chwarae a rhaid iddynt gymryd perchnogaeth lawn o'u cyfrifoldebau diogelu. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob aelod o'r gweithlu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch unrhyw blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl ac sy'n gysylltiedig â gweithgarwch y Cyngor a rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Cymdeithasol am eu pryderon.

Mae'r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn plant. Bydd gan bob ysgol ei pholisi amddiffyn plant ei hun hefyd. Bydd y polisi’n nodi personél allweddol.

Dylid hysbysu’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant neu’r dirprwy yn absenoldeb yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant ynghylch unrhyw bryderon am ddiogelu.

Er mai’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant yw’r person â chyfrifoldeb am amddiffyn a diogelu plant, os oes gan aelod o staff bryderon nad yw mater wedi cael sylw, gall wneud atgyfeiriad uniongyrchol i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd yr arweinydd Diogelu Corfforaethol yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor i sicrhau bod yna drefniadau effeithiol i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl ar draws y Cyngor. Yn benodol bydd hyn yn:

  • Monitro’r modd y mae’r Polisi hwn yn cael ei weithredu a’r modd y cydymffurfir ag ef ar draws y Cyngor
  • Sicrhau bod rhaglen hyfforddiant diogelu corfforaethol ar waith
  • Pennu llinellau atebolrwydd clir.
  • Sicrhau bod yna Arweinwyr Diogelu Dynodedig ym mhob maes gwasanaeth.
  • Sicrhau bod adroddiadau gwasanaeth blynyddol yn cael eu paratoi.
  • Sicrhau bod yr adroddiad diogelu corfforaethol blynyddol at ddibenion Craffu yn cael ei gyflawni.
Llwythwch mwy