Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021

Mae Is-adran Gwasanaethau TGCh Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth helaeth a gwasanaethau i bob ysgol ar draws yr Awdurdod. Hon fydd Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion cyntaf erioed Sir Gaerfyrddin sy'n gosod ein gweledigaeth ac sy'n cael ei thanategu gan ein hegwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn darparu gwasanaethau TGCh i ysgolion.

Mae defnydd yr ysgol o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr digidol hyderus, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadigol. Mae Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru ar wahân i TGCh. Mae cymhwysedd digidol yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd; mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol y gellir eu cymhwyso i amrywiaeth eang o bynciau a senarios y mae modd eu trosglwyddo i'r byd gwaith

Mae'r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion hon sydd wedi'i hariannu llawn ac sy’n cynnwys yr adnoddau llawn yn amlinellu cyfeiriad y ddarpariaeth TGCh mewn ysgolion dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod gan ysgolion y dechnoleg briodol i gyflawni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Y gynulleidfa ar gyfer y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion yw ein hysgolion, athrawon a staff, aelodau etholedig ac arweinyddiaeth yr Awdurdod.

Lawrlwythiadau

Cyngor a Democratiaeth