Paratoi ar gyfer Brexit
Mae Brexit wedi hawlio'r sylw yn y newyddion ers misoedd, ac mae hyn wedi dwysáu yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth i Theresa May geisio sicrhau cytundeb yn y Senedd.
Pa ffordd bynnag yr oeddech wedi pleidleisio yn y refferendwm, a beth bynnag yw eich barn am y broses o ran Prydain yn gadael yr UE, bydd materion sy'n peri pryder i bawb.
O'n rhan ni, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi ar gyfer Brexit drwy weithio'n agos gyda'n partneriaid, a sefyll gyda chynghorau eraill fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ein blaenoriaeth yw lleihau unrhyw effaith y bydd Brexit yn ei chael ar wasanaethau'r Cyngor, a'r trigolion a'r busnesau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym hefyd yn rhan o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys sy'n cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer unrhyw heriau y bydd Brexit yn eu cyflwyno.
Fel Arweinydd, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddatblygu adroddiad sy'n manylu ar yr holl faterion sy'n peri pryder, a pha fesurau a threfniadau wrth gefn y dylid eu rhoi ar waith fel rhan o'n paratoadau, a chaiff yr adroddiad hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ei drafod a chytuno arno cyn bo hir.
Yn y cyfamser, rydym yn dilyn cyngor a chyfarwyddyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Wrth gwrs, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod trigolion a busnesau yn derbyn y newyddion diweddaraf ynghylch unrhyw ddatblygiadau a allai effeithio arnynt dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

I gael y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf gan Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Emlyn Dole edrychwch ar ei flog a'i ddiweddariadau fideo.
Fideo diweddaraf - Twristiaeth Sir Gâr
Blogiau blaenorol...
Blog Rhagfyr - 0 o bostiadau