Cyfle gwych i edrych yn ôl dros y prif lwyddiannau
Yr wythnos ddiwethaf cefais gyfle i gyflwyno fy mhedwerydd adroddiad blynyddol i'r cyngor llawn, ac roedd yn braf cael croesawu rhai o aelodau'n Bwrdd Gweithredol Bach i'r siambr am y tro cyntaf.
Cyflwynodd Emlyn Bach (Lewis Thomas) y prosiect, sy'n ceisio cynnwys pobl ifanc wrth gyflawni prosiectau allweddol y cyngor dros y blynyddoedd nesaf.
O gofio bod popeth rydym yn ei wneud yn cael effaith ar genedlaethau'r dyfodol, mae'n wych cael y bobl ifanc dalentog hyn yn gofyn cwestiynau allweddol i ni ac yn helpu i roi dealltwriaeth well i'n cymunedau o'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.
Mae fy adroddiad yn nodi'r llwyddiannau sylweddol a gyflawnwyd dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys ein buddsoddiad o £45 miliwn mewn tai cyngor a'r £2.8 miliwn rydym wedi'i wario ar ein priffyrdd, ynghyd â'r £16.2 miliwn o gyllid o'r sector preifat a chyllid allanol rydym wedi'i sicrhau ar gyfer ein cymunedau.
Yn ogystal â hyn, mae ein swyddogion wedi nodi arbedion gwerth £16 miliwn drwy wneud pethau'n wahanol, a bydd hyn yn helpu i gynorthwyo cyllideb y cyngor wrth i ni ymdrechu i wneud mwy â llai.
Wrth i ni baratoi ar gyfer cynnal Taith Merched OVO Energy ym mis Mehefin, yr ail ras beicio ar y ffordd genedlaethol mewn llai na 12 mis, mae hefyd yn gyfle da i edrych yn ôl ar lwyddiant Taith Prydain a oedd wedi sicrhau dros £800,000 ar gyfer busnesau a chymunedau mewn 48 awr yn unig mis Medi diwethaf - ac rydym yn dal i gyfrifo enillion ein buddsoddiad wrth i fwy a mwy o bobl ddod i Sir Gaerfyrddin yn dilyn y digwyddiad gwych.

I gael y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf gan Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Emlyn Dole edrychwch ar ei flog a'i ddiweddariadau fideo.
Fideo diweddaraf - Twristiaeth Sir Gâr
Blogiau blaenorol...
Blog Rhagfyr - 0 o bostiadau