Cadeirydd 2020 - 21
Y Cynghorydd Ieuan Davies yw Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2020/2021.
Fe’i hetholwyd yn Gadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2020, a bydd yn gwasanaethu tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf a gynhelir ym mis Mai 2021.
Mae'r Cynghorydd Davies wedi cynrychioli Ward Etholiadol Llanybydder ers 1995.
Cafodd Ieuan ei eni a'i fagu yn Llanybydder ac mae'n enw adnabyddus yn yr ardal gan ei fod yn berchen ar siop trin gwallt.
Mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanybydder a Chyngor Cymuned Pencarreg.
Mae Ieuan yn ddiwyd iawn yn ei gymuned ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Canser Cangen Llanybydder a Llanbedr Pont Steffan. Mae hefyd yn drefnydd gydag Apêl y Pabi yn lleol ac mae'n un o sylfaenwyr ac yn Ymddiriedolwr yng Nghanolfan Gymunedol Hen Ysgol Llanybydder.
Mae'n aelod o Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac yn Is-gadeirydd y Panel Adolygu Tai. Yn ogystal, mae'n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Llanybydder.
Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac fe'i hetholwyd yn y Cyfarfod Blynyddol. Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor a chynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol yn y Sir a thu hwnt. Hefyd mae'n estyn croeso i bobl sy'n ymweld â'r Sir ac yn cefnogi digwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan bobl leol a mudiadau yn y Sir.
Fel arfer, mae Cadeirydd y Cyngor Sir yn codi arian ar gyfer elusennau lleol yn ystod y cyfnod wrth y llyw. Bydd y Cynghorydd Davies yn parhau â’r traddodiad rhagorol hwn drwy gefnogi Canser y Prostad ac Eglwys Sant Pedr, Llanybydder.
Y Cynghorydd Eirwyn Williams yw'r Is-gadeirydd ar gyfer 2020/2021.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
- Cyfansoddiad y Cyngor
- Cadeirydd 2020 - 21
- Swyddfa'r Crwner
- Arglwydd Raglaw
- Blog Arweinydd
- Blog Cadeirydd y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Bwrdd Gweithredol
- Penderfyniadau swyddogion
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
- Cyfarfodydd byw a rhithwir y Cyngor a rhai sydd i ddod
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2019-20
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2020
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru'r Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Etholiad Senedd Ewrop 2019
- Etholiadau Lleol 2017
- Etholiad Seneddol 2017
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Ymchwil ac Ystadegau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth