Cadeirydd 2022 - 23

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/09/2022

Y Cynghorydd Rob Evans yw Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/2023.

Fe’i hetholwyd yn Gadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 25ain Mai 2022, a bydd yn gwasanaethu tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf a gynhelir ym mis Mai 2023. Mae'r Cynghorydd Evans wedi cynrychioli Ward Dafen o 2017 tan 2022, ac mae nawr yn cynrychioli'r ward newydd o Ddafen a Felin-foel.

Ganwyd Rob yn Llanelli. Yn briod i Nysia, ei Gymar eleni, sydd hefyd yn Gynghorydd ar gyfer Ward Dafen a Felin-foel. Mae ganddynt dau o blant, Eve ac Edward, a dau o wyrion, Noah a Rosie. Mae Rob yn gyn aelod o’r Awyrlu Brenhinol a chyflogwyd ef gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel parafeddyg. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys pysgota plu, rygbi, teithio, gan gynnwys ymweld â Beddau Rhyfel Byd 1 a 2 yn Ffrainc, ac wrth gwrs ei wyrion.

Mae'n aelod o Bwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio’r Cyngor ac yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Dafen.

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac fe'i hetholwyd yn y Cyfarfod Blynyddol. Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor a chynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol yn y Sir a thu hwnt. Hefyd mae'n estyn croeso i bobl sy'n ymweld â'r Sir ac yn cefnogi digwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan bobl leol a mudiadau yn y Sir.

Fel arfer, mae Cadeirydd y Cyngor Sir yn codi arian ar gyfer elusennau lleol yn ystod y cyfnod wrth y llyw. Bydd y Cynghorydd Evans yn parhau â’r traddodiad rhagorol hwn drwy gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Tŷ Bryngwyn Llanelli.

Y Cynghorydd Louvain Roberts yw'r Is-gadeirydd ar gyfer 2022/2023.

Cyngor a Democratiaeth