Amddifadedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/04/2024

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n nodi ardaloedd sydd â'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn rhestru holl ardaloedd bach Cymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig, mae gan yr ardaloedd hyn boblogaeth gyfartalog o 1,600 o bobl er mwyn gwneud cymariaethau tecach rhwng ardaloedd sydd wedi’u lleoli mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’n Ystadegyn Cenedlaethol a gynhyrchwyd gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, mae eu dogfen ganllaw yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i ddefnyddio MALlC.

Mae MALlC yn fesur o amddifadedd lluosog sy’n fesur ar sail ardal ac yn fesur o amddifadedd cymharol ac ar hyn o bryd mae’n cynnwys wyth parth (neu fath) o amddifadedd ar wahân a chaiff pob maes ei gasglu o ystod o wahanol ddangosyddion, gwybodaeth am mae’r dangosyddion hyn i’w gweld yn Adroddiad Technegol MALlC 2019 Llywodraeth Cymru ac mae rhestr o’r allbynnau a ddefnyddiwyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cyngor a Democratiaeth