Proffil Ardal

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/05/2023

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir amrywiol iawn o ran ei phobl a'i daearyddiaeth. Y drefn a fu oedd bod y sir yn cynnwys 58 o wardiau etholiadol gyda 74 o aelodau etholedig. Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad sylweddol o ffiniau etholiadol gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, o etholiadau lleol Mai 2022 ymlaen, bydd y sir yn cynnwys 51 o wardiau a 75 o aelodau. Gellir dod o hyd i'r ffiniau wardiau newydd o fis Mai 2022 ymlaen ar y tudalennau canlynol  - Rhanbarthau Etholiadol

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi creu teclyn sy’n gallu ‘adeiladu proffil ardal’ er mwyn eich galluogi i gael data Cyfrifiad 2021 yn ôl gwahanol ardaloedd, e.e. ward neu blwyf.

Gallwch chi:

• Ddod o hyd i ardal yn ôl enw neu god post
• Llunio ardal eich hun ar fap
• Dewis pynciau gwahanol data o Cyfrifiad 2021
• Arbed yr ardal yr ydych wedi creu llun I’w defnyddio eto
• Lawrlwytho eich proffil ardal fel llun neu daenlen (CSV)
• Ychwanegu eich proffil at wefan

Adeiladwch eich proffil ardal

Os oes gennyh unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Dealltwriaeth Data data@sirgar.gov.uk

Cyngor a Democratiaeth