Amcanion lles
Mae'n rhaid byw bywyd, gadewch i ni ddechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda, mewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus. Mae ein Hamcanion Llesiant/Gwella rhyng-gysylltiedig yn amrywio o helpu plant i fyw bywydau iach i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae cynlluniau gweithredu manwl ar waith i gefnogi pob amcan llesiant/gwella. Bydd y rhain yn cael eu monitro drwy ein Fframwaith Rheoli Perfformiad, ac adroddir yn eu cylch fel hynny hefyd. Mae'r adroddiad blynyddol yn dangos y cynnydd rydym wedi ei wneud o ran cyflawni'r Amcanion hyn (cyhoeddwyd yn yr hydref y flwyddyn ganlynol, ar ôl gwybod canlyniadau ariannol a pherfformiad).