Dechrau gorau mewn bywyd

Yn yr adran hon



Amcan llesiant 1: Helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd

Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?

  • Mae rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol er mwyn lleihau anghydraddoldebau yn ystod cwrs bywyd.
  • Mae plant sy'n cael plentyndod llawn straen sydd o ansawdd gwael yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael a datblygu problemau iechyd hirdymor wrth iddynt dyfu'n oedolion.
  • Mae'r hyn sy'n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn yn cael effaith gydol oes ar sawl agwedd ar iechyd a llesiant - o ordewdra, clefyd y galon ac iechyd meddwl i gyflawniad addysgol a statws economaidd.
  • Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r effaith niweidiol y gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, yn enwedig os oes sawl achos, ei chael ar lesiant ac iechyd corfforol a meddwl, perthnasoedd ag eraill, cyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau ffyniant wrth dyfu'n oedolyn.
  • Mae Plant sy'n Derbyn Gofal yn fwy tebygol o fod wedi bod yn agored i gyfraddau uchel o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod sy'n gysylltiedig â deilliannau gwael yn y tymor hir cyn dechrau derbyn gofal.

Pam y dylem boeni am hyn?

  • Mae gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod effaith niweidiol ar iechyd a llesiant gydol oes. Mae 47 o bob 100 o oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod ac mae 14 wedi cael 4 neu fwy. Mae plant sy'n cael plentyndod llawn straen sydd o ansawdd gwael yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadau sy'n niweidio iechyd. (Arolwg Cenedlaethol o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yng Nghymru)
  • Mae plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith yn fwy tebygol o gael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae 8.7% o blant Sir Gaerfyrddin yn byw ar aelwydydd heb waith, sy'n is na ffigwr 2017 o 10.2% ac yn is ar hyn o bryd na'r ffigwr ar gyfer Cymru (12.6%) a'r DU (10.5%).
  • Ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin mae 70 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, mae 148 yn Blant sy'n Derbyn Gofal, ac mae 839 o blant yn cael gofal a chymorth(ar 14/12/20).