Amcan llesiant 10: Gofalu am yr amgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
Mae'r Amgylchedd Naturiol yn elfen greiddiol o ddatblygu cynaliadwy. Mae Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymestyn y ddyletswydd sydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth a chynyddu cryfder ecosystemau.
Mae amgylchedd naturiol bioamrywiol, gydag ecosystemau iach, yn helpu gwytnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yw'r adnodd naturiol y mae rhan helaeth o'n heconomi wedi ei seilio arni – twristiaeth, ffermio, coedwigaeth, ac ynni adnewyddadwy. Mae'n ffactor o bwys sy'n denu pobl, ifanc a hŷn, i fyw, gweithio ac ymweld â'n sir, gan ddod â buddsoddiad o'r tu allan gyda hwy.
Mae gwarchod a gwella bioamrywiaeth yn hanfodol yn ein hymateb i newid yn yr hinsawdd a gwasanaethau ecosystem allweddol megis bwyd, rheoli llifogydd, llygredd, dŵr ac aer glân.
Bu i effaith pandemig COVID-19 ddangos y berthynas gref rhwng llesiant trigolion a'r amgylchedd naturiol o'u hamgylch, o ddarparu cyfleoedd hamdden, i ymdeimlad cadarnhaol seicolegol, buddion iechyd a chysylltiad â threftadaeth a diwylliant.
Mae'r amgylchedd yn cyfrannu £8.8 biliwn o nwyddau a gwasanaethau bob blwyddyn i economi Cymru, 9% o GDP Cymru ac 1 ym mhob 6 swydd yng Nghymru; gan fod yn fwy pwysig i economi Cymru na'r hyn ydyw yn achos cenhedloedd eraill y DU.
Mae canlyniadau'r ymgynghoriad blynyddol ynghylch y gyllideb yn dangos mai 'Gofalu am yr amgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol' yw'r Amcan Llesiant ail bwysicaf i ddinasyddion.
Mae amgylchedd naturiol bioamrywiol, gydag ecosystemau iach, yn helpu gwytnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, yn ogystal â'n hiechyd a'n llesiant. Bydd y Clefyd Coed Ynn yn arwain at golli llawer iawn o goed.
Yn sgil pandemig COVID-19, gwelwyd cynnydd o ran gwerthfawrogi manteision mynediad i'r amgylchedd naturiol ac ansawdd aer, a phryderon am dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel ac ailgylchu.
Mae'n debygol y bydd cynnydd yn lefelau'r môr yn cael effaith nid yn unig ar y 6,388 eiddo yn Sir Gaerfyrddin sydd eisoes mewn perygl o lifogydd llanwol a llifogydd yn sgil cynnydd yn lefel afonydd, ond ar eiddo ychwanegol ar hyd ein cymunedau arfordirol ac afonol o ganlyniad i amlder a dwyster stormydd fel Callum a Dennis. Bydd amgylchedd naturiol bioamrywiol yn fwy gwydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd, a newidiadau yn lefel y môr.