Priffyrdd a thrafnidiaeth
Yn yr adran hon
- Amcan llesiant 11: Gwella seilwaith a chysylltedd priffyrdd a thrafnidiaeth
- Beth sydd angen i ni ei wneud?
- Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?
Amcan llesiant 11: Gwella seilwaith a chysylltedd priffyrdd a thrafnidiaeth
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
Mae trafnidiaeth a phriffyrdd yn allweddol o ran cynnal ein cymuned a darparu 'Ffyniant i Bawb'. Mae economi fodern, lwyddiannus yn dibynnu ar y gallu i symud pobl a nwyddau yn ddiogel ac yn effeithlon, gan roi cyfleoedd i bobl gael mynediad i gyflogaeth, addysg, hamdden a siopa.
Bod yn unedig a chysylltiedig yw un o bedwar amcan Llywodraeth Cymru yn ei gynllun 'Symud Cymru Ymlaen'. Gall darparu mynediad integredig a fforddiadwy i fusnesau, i drigolion y sir, ac i ymwelwyr ysgogi datblygiad economaidd, lleihad mewn amddifadedd ac allgau cymdeithasol, a chynnydd mewn llesiant.
Bydd cynnal mynediad i wasanaethau yn rhoi bod i welliannau o ran iechyd a llesiant i bob rhan o'r gymuned e.e. mae hynny'n cynnwys cerdded, beicio, cludiant teithwyr a thrafnidiaeth y ffyrdd.
Bydd De-orllewin Cymru yn Ddinas-ranbarth hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig erbyn 2030.
Pam y dylem boeni am hyn?
- Ein rhwydwaith priffyrdd yw'r ail fwyaf yng Nghymru ac mae'n cwmpasu 3,545 cilomedr, sy'n fwy na dwbl cyfartaledd Cymru sef 1,566 cilomedr, gan gwmpasu 16 miliwn metr sgwâr o ffyrdd cerbydau.
- Graddiwyd cyflwr ein ffyrdd yn y 17eg safle o blith 22 ledled Cymru yn 2017/18.
- Nid oes gan 18.8% o bobl fynediad i gar neu fan. Fodd bynnag, mae gan 43.5% o'r aelwydydd un car fesul aelwyd, a allai ddynodi llai o hygyrchedd mewn mannau lle nad oes system trafnidiaeth gyhoeddus dda.
- Dim ond 55% o'r rheiny oedd yn 80+ oed sydd â mynediad i gar neu fan, felly mae trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau cymunedol yn bwysig er mwyn galluogi pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau; gall olygu'r gwahaniaeth rhwng rhywun yn aros yn annibynnol gartref neu'n cael gofal preswyl. Effaith cyfyngiadau symud COVID-19 ar Ansawdd Aer.