Priffyrdd a thrafnidiaeth

Sut fydd yr amcan llesiant yn cael ei ariannu?

Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin yn pennu ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Mae'r blaenoriaethau'n cyd-fynd â'n hamcanion corfforaethol ac wedi'u pennu yn amcanion Dinasranbarth Bae Abertawe. Mae ein rhaglen gyfalaf gymeradwy bresennol yn cynnwys buddsoddi dros £19m mewn seilwaith priffyrdd, y mae £10m ohono'n dibynnu ar gyllid grant allanol, ac yn cynnwys £254k ar bwyntiau gwefru cerbydau electronig newydd ac £800k ar gyfer goleuadau stryd.

Mae cyllideb refeniw yr is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth o £32 miliwn yn cynnwys swm o £8 miliwn ar gyfer seilwaith priffyrdd yn ogystal â chyllid ar gyfer cludiant ysgol a thrafnidiaeth gyhoeddus, cynnal a chadw a gweinyddu meysydd parcio, cynnal a chadw goleuadau cyhoeddus ar gyfer y sir, a datblygu strategaethau trafnidiaeth i gynnal cysylltedd seilwaith priffyrdd Sir Gaerfyrddin.

Bydd cyflwyno'r prosiectau trawsnewid megis y rheiny sydd wedi'u cynnwys yn y Fargen Ddinesig a'r prosiectau trafnidiaeth integredig, gyda chymorth cyllid allanol, yn rhoi cyfle i fuddsoddi yn y seilwaith a'r gwasanaethau trafnidiaeth er mwyn helpu i gludo pobl a nwyddau yn ddiogel.