Amcan llesiant 12: Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
Mae Sir Gaerfyrddin yn gadarnle ar gyfer y Gymraeg ac ystyrir bod y sir o bwysigrwydd strategol mawr i ddyfodol yr iaith.
Mae dwyieithrwydd o fudd i'r economi ac i unigolion drwy fuddion gwybyddol a chymdeithasol.
Mae'n bwynt gwerthu unigryw. Mae diwydiannau twristiaeth a lletygarwch ledled Ewrop bellach yn sylweddoli pwysigrwydd cynnig profiadau unigryw. Mae cael dwy iaith a synnwyr o hanes a diwylliant Cymru yn golygu bod Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa gref.
Mae cymryd rhan mewn gweithgarwch diwylliannol yn cael effaith gadarnhaol amlwg ar ddechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda.
Pam y dylem boeni am hyn?
Yn ôl canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019/20, dywedodd 37.4% o bobl Sir Gaerfyrddin eu bod yn siarad Cymraeg. (Ar sail sampl o 12,400 yng Nghymru)
Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi cwympo i 43.9% o gymharu â 50.1% yn 2001.
Uchelgais Llywodraeth Cymru drwy Cymraeg 2050 - Strategaeth y Gymraeg yw gweld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.