Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
Yn yr adran hon
- Amcan llesiant 12: Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
- Beth sydd angen i ni ei wneud?
- Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?
Beth sydd angen i ni ei wneud?
- Mae angen i ni sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg
- Byddwn yn parhau i hyrwyddo cynnwys y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg mewn partneriaeth ag arweinwyr ysgol er budd pob dysgwr yn Sir Gaerfyrddin. (Gweler hefyd Amcan Llesiant 3)
- Mae angen inni hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau a gweithio gyda phartneriaid megis y Mentrau Iaith, yr Urdd a'r Mudiad Meithrin i wireddu'r weledigaeth a nodwyd yn ein Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg.
- Mae angen i ni hyrwyddo ein hunain fel cyflogwr dwyieithog ac ymchwilio i'r posibiliadau o wneud hynny mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yn y Sir, gan ganolbwyntio'n benodol ar ein rhaglen brentisiaethau.
- Mae angen inni ddatblygu sgiliau iaith ein staff a'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a sicrhau ein bod yn manteisio ar ddatblygiadau technolegol i'r diben hwn
- Mae angen inni sicrhau bod datblygiad economaidd a ffyniant y Gymraeg yn digwydd ochr yn ochr drwy adfywio economïau a chymunedau gwledig
- Mae angen inni gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch diwylliannol
- Mae angen inni sicrhau bod asedau treftadaeth ein sir yn cael eu gwarchod ac ar gael i genedlaethau'r dyfodol.
Pa un o'r 7 nod llesiant y mae'r amcan hwn yn eu cyflawni?
Mae'n rhaid i ni weithio tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant cenedlaethol sydd yn y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r amcan hwn yn cyflawni'r nodau canlynol: