Llywodraethu a defnyddio adnoddau yn well

Beth sydd angen i ni ei wneud?

  • Bydd ein dull Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) yn sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu gwersi Pandemig COVID-19 ac i adeiladu ar y ffyrdd newydd o weithio oedd yn llwyddiannus.
  • Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ar sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, llywodraethu a pherfformiad.
  • Byddwn yn defnyddio'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol newydd i leihau anghydraddoldebau oherwydd anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Byddwn yn buddsoddi mewn adfywio drwy raglen gyfalaf y Cyngor drwy ddatblygu ac adeiladu gofod cyflogaeth i fusnesau a darparu cymorth ariannol i'r sector preifat at ddibenion datblygu.
  • Byddwn yn gwneud defnydd gwell o'n hadnoddau a fydd yn helpu i leihau'r effaith ar wasanaethau, yn bennaf drwy wneud defnydd doethach o'n hadeiladau, ein pobl a'n gwariant.
  • Mae angen i ni sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn rhan annatod o'n holl Wasanaethau. (Gweler hefyd: Cymru sy’n Fwy Cyfartal)

Pa un o'r 7 nod llesiant y mae'r amcan hwn yn eu cyflawni?

Mae'n rhaid i ni weithio tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant cenedlaethol sydd yn y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r amcan hwn yn cyflawni'r nodau canlynol: