Llywodraethu a defnyddio adnoddau yn well

Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?

  1. Drwy drawsnewid, arloesi a newid y ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau. Nod ein rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) yw meddwl yn wahanol, gweithredu'n wahanol ac felly cyflawni'n wahanol.
  2. Byddwn yn dilyn 7 Egwyddor Llywodraethu Da a nodwyd yn Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)/ Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE):
    1. Uniondeb a Gwerthoedd - (Ymddwyn ag uniondeb, arddangos ymrwymiad cryf i werthoedd moesegol, a pharchu grym y gyfraith)
    2. Bod yn Agored ac Ymgysylltu (Sicrhau bod yn agored ac ymgysylltu'n drylwyr â rhanddeiliaid)
    3. Gwneud Gwahaniaeth (Diffinio canlyniadau o ran manteision economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol cynaliadwy)
    4. Sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn y mae'n fwriad gennym i'w wneud (Penderfynu ar yr ymyriadau angenrheidiol i gyflawni'r canlyniadau bwriadedig i'r graddau gorau posibl)
    5. Gwerthfawrogi ein pobl; ymgysylltu, arwain a chefnogi - (Datblygu capasiti a gallu arweinwyr ac unigolion)
    6. Rheoli risgiau, perfformiad a chyllid (Rheoli risgiau a pherfformiad drwy reolaeth fewnol gadarn a rheolaeth ariannol gyhoeddus gref)
    7. Tryloywder ac atebolrwydd da (arferion da, adrodd, ac archwilio er mwyn darparu atebolrwydd effeithiol)

Bydd ein ffocws ar gyfer 2021-22 ar:

  • Sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn rhan annatod o holl amcanion y Cyngor 

Bydd llwyddiant yr amcan hwn yn cael ei fesur gan:

  • Taliadau 'Ar-lein Amdani'
  • Pobl yn cytuno y gallant gyrchu gwybodaeth am yr Awdurdod yn y ffordd y byddent yn ei dymuno.
  • Pobl yn gwybod sut i ddarganfod pa wasanaethau mae'r Cyngor yn eu darparu
  • Pobl yn cytuno bod ganddynt gyfle i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ynglŷn â rhedeg gwasanaethau'r awdurdod lleol
  • Lefelau absenoldeb salwch y staff
  • 'Costau cynnal' y sefydliad
  • Rydym yn gofyn am farn pobl cyn pennu'r gyllideb