Llywodraethu a defnyddio adnoddau yn well
Sut fydd yr amcan llesiant yn cael ei ariannu?
Mae mynd i'r afael â'r flaenoriaeth hon yn cwmpasu'r holl feysydd gwasanaeth ac mae'n ymwneud â buddsoddiad yn ogystal ag arbedion effeithlonrwydd. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fodelau cyflawni sy'n ariannol gynaliadwy - ceir llawer o enghreifftiau o hyn ar draws gwahanol adrannau, fel cynyddu'r ddarpariaeth Gofal Ychwanegol lle mae'n bodloni anghenion y defnyddiwr gwasanaeth yn well, edrych ar sut bydd covid yn arwain at ffyrdd newydd o weithio, ac o bosibl lleihau costau ystad y Cyngor yn y dyfodol.
Dros gyfnod parhaus o ostyngiadau yn y gyllideb, mae'r Cyngor wedi ceisio mwyhau cyfran yr arbedion rheoli, a thrwy hynny leihau'r effaith ar wasanaethau rheng flaen. Mae cynllun ariannol tymor canolig y Cyngor yn cynnwys £9.2 miliwn o gynigion "rheoli", neu dros 80% o gyfanswm y cynigion ar gyfer cwtogi'r gyllideb a gyflwynwyd.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella ffyrdd o weithio drwy waith y rhaglen "Trawsnewid i Wneud Cynnydd" (TIC) sy'n cael ei ategu gan y tîm TIC (£227k).