Helpu plant i ddilyn ffordd iach o fyw

Amcan llesiant 2: Helpu plant i ddilyn ffordd iach o fyw

Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?

  • Mae amcanestyniadau yn awgrymu y bydd cynnydd o ran tueddiadau gordewdra yn ystod plentyndod, gyda'r ffigurau'n dangos mai bechgyn rhwng 2 a 15 oed sy'n wynebu'r risg fwyaf.
  • Roedd asesiadau gweithgarwch o ran plant ysgol gynradd yn dangos mai bod yn gorfforol egnïol oedd y ffactor pwysicaf ond un ar gyfer llesiant cadarnhaol plant 6 – 11 oed; cysylltiadau â pherthnasau a ffrindiau oedd y pwysicaf. • Mae byw bywydau iach yn galluogi plant i gyrraedd eu potensial a gwireddu eu dyheadau o ran addysg.
  • Mae arferion a sefydlir yn gynnar mewn bywyd yn aros gyda phobl i'w galluogi i gyfrannu'n llawn at economi a chymdeithas Sir Gaerfyrddin.

Pam y dylem boeni am hyn?

  • Sir Gaerfyrddin sydd â'r 12fed lefel uchaf o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru gyda 26.6% (492) o blant 4-5 oed dros bwysau neu'n ordew, ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, o 26.4%.Rhaglen Mesur Plant Cymru 2017/18
  • Trwy ymgysylltu ag ysgolion cynradd, clustnodwyd bod cysylltiad cryf rhwng gweithgarwch corfforol a chyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored, a theimlo'n ddiogel yn yr amgylchedd hwnnw.
  • Mae anhwylderau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yr un mor gyffredin, ac mae 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc rhwng pump ac un deg chwech oed yn dioddef o anhwylder iechyd meddwl y mae modd ei ddiagnosio. Rhwng un a deuddeg oed, mae 1 ym mhob 15 person ifanc yn hunan-niweidio'n fwriadol. Ffynhonnell: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol, Cynllun Tymor Canolig Integredig Interim Hywel Dda 2016/17 i 2018/19 (tudalen 56)