Helpu plant i ddilyn ffordd iach o fyw

Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?

  1. Byddwn yn cynyddu'r amrywiaeth o gyfleoedd gweithgarwch corfforol sydd ar gael i blant, ac yn targedu'r rheiny sy'n wynebu risg uwch o anweithgarwch.
  2. Byddwn yn mynd i'r afael ag iechyd meddwl gan gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
  3. Byddwn yn hyrwyddo bwyta'n iach, gan gynnwys trwy brydau ysgol, y cynllun Ysgolion Iach a'r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol.
  4. Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o ffyrdd iach o fyw drwy'r cynllun Ysgolion Iach.
  5. Byddwn yn parhau i ddatblygu, hyrwyddo a gweithredu Rhaglen Dechrau’n Deg.
  6. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i weithredu Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar.
  7. Byddwn yn datblygu strategaeth a chynllun cyflawni amlasiantaethol i ymateb i effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc.

Bydd ein ffocws ar gyfer 2021-22 ar:

  • Mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl plant – sy'n deillio o bosibl o fesurau'r cyfyngiadau symud
  • Bydd llwyddiant yr amcan hwn yn cael ei fesur yn ôl nifer y blant sydd dros bwysau neu'n ordew