Helpu plant i ddilyn ffordd iach o fyw

Sut fydd yr amcan llesiant yn cael ei ariannu?

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, mae'r pwyntiau allweddol uchod hefyd yn berthnasol. Mae prydau ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn deddfwriaeth bwyta'n iach, ac mae cyllid craidd blynyddol o £3m ar gyfer hyn. Mae hyn yn cynnwys cost y fenter Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd.

Cefnogir gweithgareddau iach ar gyfer pobl ifanc gan gyllidebau rhaglennu cyfleusterau hamdden a datblygiadau chwaraeon presennol, wedi'u hategu gan Grant Cytundeb Partneriaeth yr Awdurdod Lleol o £465k yr ydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru trwy Chwaraeon Cymru. Mae hyn yn helpu i dalu am weithgareddau megis Nofio Am Ddim a'r Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol.