Amcan llesiant 3: Cefnogi a gwella cynnydd, cyflawniadau a deilliannau'r holl ddysgwyr
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
Rydym ni i gyd eisiau i'n plant a'n pobl ifanc gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd drwy eu helpu i ennill y sgiliau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i fyw bywydau hapus, iach a bodlon.
Rydym am wella canlyniadau i bobl o bob oedran drwy ddysgu gydol oes, i'w galluogi i ffynnu yn yr 21ain Ganrif ac ym myd gwaith.
Mae ymchwil gan Y Sefydliad Addysg yn awgrymu bod mynychu cyn-ysgol dda ac ysgol gynradd dda yn gallu cael mwy o effaith ar gynnydd academaidd plant na'u rhywedd neu eu cefndir teuluol (Taggart, 2015)
Ar hyn o bryd mae bwlch cenedlaethol (gan gynnwys yn Sir Gaerfyrddin) rhwng perfformiad disgyblion sy'n agored i niwed gan gymwys y rheiny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rheiny nad ydynt yn gymwys. Mae'r agwedd hon ar ein perfformiad a'n cyflawniad ar ddiwedd y cyfnod allweddol yn dal yn her ac achos gofid i ni.
Mae gennym nifer o ysgolion sydd wedi nodi meysydd allweddol i'w gwella drwy gyfrwng eu prosesau hunanwerthuso blynyddol.
Mae deilliannau gweithgareddau cymharu rhyngwladol yn parhau i ddangos bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU.
Mae Adroddiadau'r OECD sy'n monitro rhaglen adolygu'r cwricwlwm Llywodraeth Cymru yn cydnabod, er bod cynnydd sylweddol wedi'i gyflawni, fod agweddau y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn meysydd penodol.