Trechu tlodi
Yn yr adran hon
- Amcan llesiant 4: Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi
- Beth sydd angen i ni ei wneud?
- Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?
Amcan llesiant 4: Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
Mae tlodi ac amddifadedd yn cael effeithiau niweidiol difrifol ar bob agwedd ar lesiant. Mae'n cyfyngu ar y cyfleoedd a'r gobeithion ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn niweidio ansawdd bywyd teuluoedd a chymunedau.
Gall tlodi fod yn rhwystr o ran cyfrannu'n llawn at gymdeithas, ac yn rhy aml o lawer mae'n brofiad sy'n pontio'r cenedlaethau ac sy'n peri bygythiad sylweddol i lesiant cadarnhaol yn awr ac yn y dyfodol.
Pam y dylem boeni am hyn?
- Yn ôl y diffiniad, gellir dweud bod 33.8% (27,691) o aelwydydd Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, y 13eg uchaf yng Nghymru (Cyfartaledd Cymru yw 32.9%). Diffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi yw pan fo "incwm yr aelwyd yn llai na 60% o incwm canolrifol Prydain”. Mae hyn yn golygu aelwyd lle mae'r incwm yn llai na £19,967 y flwyddyn (2020 - 60% o £33,278).
- Mae gennym Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol statudol newydd i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.
- Mae'n bosibl bod Pandemig COVID-19 wedi effeithio'n fwy sylweddol ar y cymunedau mwyaf difreintiedig.