Trechu tlodi

Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?

  1. Byddwn yn cynnal adolygiad sylfaenol o'n hymagwedd at Drechu Tlodi ac yn paratoi cynllun gweithredu trawsadrannol ar gyfer y Cyngor, i ymateb i faterion allweddol sy'n ymwneud â thlodi, tlodi gwledig a thlodi plant. Byddwn yn trafod hyn ymhellach gyda rhanddeiliaid perthnasol ac aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
  2. Bydd ein gwasanaethau addysg a phlant yn gweithio i atal tlodi drwy ddarparu rhaglenni ymyrraeth gynnar allweddol megis Dechrau'n Deg a'r Tîm o Amgylch y Teulu, ac i sicrhau bod llythrennedd ariannol ar y cwricwlwm ysgol. Yn ogystal bydd gwasanaethau megis tai yn cymryd ymagwedd fwy rhagweithiol, ataliol at fynd i'r afael â'r hyn sy'n sbarduno tlodi er mwyn atal materion megis digartrefedd a thlodi tanwydd rhag gwaethygu.
  3. Byddwn yn helpu pobl i gael gwaith drwy feithrin eu hyder a'u sgiliau drwy'r rhaglenni Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy, ac yn targedu cymorth i'r rheiny sydd bellaf o'r farchnad lafur e.e. rhai nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET). Byddwn yn parhau i ymestyn model Hwb fel siop un stop i gael cyngor a chymorth am gyflogaeth.
  4. Byddwn yn gwella bywydau'r rhai sy'n byw mewn tlodi drwy hyrwyddo a chefnogi gwell llythrennedd ariannol drwy wasanaethau fel safonau masnach a budd-daliadau tai. Byddwn hefyd yn cyflwyno mentrau i gefnogi grwpiau allweddol sy'n agored i niwed gan gynnwys Rhaglen Gwella'r Gwyliau Haf a'r Apêl Blwch Teganau a Hamper (Tlodi Gwledig - gweler hefyd Amcan Llesiant 5c)

Bydd ein ffocws ar gyfer 2021-22 ar:

  • Trechu tlodi

Bydd llwyddiant yr amcan hwn yn cael ei fesur gan:

  • Bwlch yn y sgôr 9 pwynt cyfartalog wedi'i chapio ar gyfer y rheiny sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys
  • Aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag mynd yn ddigartref
  • Aelwydydd mewn amddifadedd materol
  • Aelwydydd sy'n Byw mewn Tlodi