Swyddi a thwf

Amcan llesiant 5: Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir

Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?

Gan fod darparu swyddi diogel gyda chyflog da i bobl leol yn ganolog i bopeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni. Mae cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i drechu tlodi a lleihau anghyfartaledd ac yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd a'n gallu i fyw mewn cymdeithas.

Pam y dylem boeni am hyn?

  • Ym mis Mawrth 2020, o blith gweithlu Sir Gaerfyrddin o 71.5%, roedd 60.7% mewn swyddi yn y maes proffesiynol/technegol/crefftau medrus – tipyn is na chyfartaledd Cymru o 63.8%, tra bo 39.2% mewn swyddi yn y maes gofal/hamdden/gofal cwsmeriaid/gweithredu peiriannau – tipyn uwch na chyfartaledd Cymru o 35.8%.
  • Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlch Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) sy'n lledaenu rhwng GYG y DU a GYG Cymru; Mae'r cyfanswm GYG yn Sir Gaerfyrddin yn 4.8% o gyfanswm GYG Cymru, sy'n gyfran gymharol uchel. Fodd bynnag, mae'r GYG fesul swydd yn isel (£44,833), sef 18fed allan o 22 awdurdod, sy'n awgrymu cynhyrchiant isel. GYG yw mesuriad o werth y cyflogau a'r elw o nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn yr ardal.
  • Mae COVID-19 wedi effeithio'n wael ar economi Sir Gaerfyrddin yn 2020, ac mae'r effaith ar gyflogaeth yn debygol o waethygu yn 2021. Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu cynllun adfer busnesau a'r economi a fydd yn galluogi'r awdurdod a'n partneriaid allweddol i gydlynu a thargedu'r adnoddau fydd ar gael er mwyn cyfyngu ar y dirywiad economaidd tebygol ac er mwyn ysgogi'r galw a hyder yn ystod yr adferiad, gan sicrhau y gall economi Sir Gaerfyrddin adfer cyn gynted â phosibl er mwyn dod yn un sy'n fwy cynhyrchiol, yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, ac yn un sydd â chymunedau iachach a mwy cynaliadwy.
  • Rhaid i ni hefyd gryfhau'r economi seiliol gan roi pwyslais penodol ar ddatblygu egwyddor gaffael flaengar a helpu busnesau i fod yn fwy cynhyrchiol ac i allu talu cyflogau uwch.