Cartrefi wedi'u rhentu a fforddiadwy
Yn yr adran hon
- Amcan llesiant 6: Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael
- Beth sydd angen i ni ei wneud?
- Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?
Amcan llesiant 6: Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
- Mae cartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn hybu iechyd a llesiant, gan ddiwallu anghenion unigol y preswylwyr a chreu cymunedau cynaliadwy cryf a lleoedd y mae pobl am fyw ynddynt.
- Mae cartrefi fforddiadwy o ansawdd da sy'n effeithlon o ran ynni yn dda i Bobl a'r Amgylchedd - bydd yr ynni a ddefnyddir yn y cartref yn llai, gan gael effaith sylweddol ar leihau costau tanwydd i'r preswylwyr. Bydd hefyd yn cael effaith sylweddol ar leihau llygryddion yn yr atmosffer a lliniaru tlodi tanwydd yn ein cymunedau.
- Mae'n dda i'r Strwythur Cymdeithasol - mae codi tai fforddiadwy yn y mannau cywir yn caniatáu i gymunedau groesawu ystod eang o deuluoedd a chreu grŵp o breswylwyr bywiog, amrywiol. Mae hyn yn wir yn achos ardaloedd gwledig a threfol.
- Mae'n dda i'r Economi - er mwyn ffynnu, mae angen i fusnesau newydd gael mynediad i'w gweithlu yn hawdd. Mae datblygiadau tai fforddiadwy yn sicrhau bod teuluoedd sy'n gweithio yn aros yn eu cymuned.
Pam y dylem boeni am hyn?
Dywedodd pobl wrthym yn ystod ein hymgynghoriad ar dai fforddiadwy yn 2015 bod angen i ni:
- Targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf, mewn ardaloedd trefol a gwledig, trwy ddarparu tai mwy fforddiadwy i'w rhentu a'u prynu.
- Bod yn fwy hyblyg – boed trwy sicrhau bod tai adfeiliedig yn cael eu defnyddio unwaith eto, prynu tai presennol neu adeiladu rhai newydd.
- Gwneud beth bynnag sydd ei angen trwy ddatblygu ffyrdd arloesol a chreadigol o ddarparu rhagor o dai.
- Defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd orau posibl i sicrhau cynifer o dai newydd â phosibl.
- Defnyddio arbenigedd, sgiliau ac adnoddau'r rhai sy'n gweithio gyda ni.