Byw yn iach

Yn yr adran hon



Amcan llesiant 7: Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)

Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?

  • Mae ein ffordd o fyw yn newid, mae pobl yn byw'n hwy ac mae eu hansawdd bywyd yn well.
  • Yr her yw atal salwch.
  • Mae byw bywydau iach yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial, gwireddu eu dyheadau addysgol, a chwarae rhan lawn yn economi a chymdeithas Sir Gaerfyrddin.
  • Mae llawer o'r gwasanaethau ataliol a'r ymyriadau sy'n ofynnol i gynnal iechyd, annibyniaeth a llesiant y tu allan i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Chwarae rhan yn darparu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol, cyffrous a chynaliadwy sy'n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden.

Pam y dylem boeni am hyn?

  • Mae bwlch sylweddol rhwng disgwyliad oes a disgwyliad oes iach. Yn Sir Gaerfyrddin:
    • Y disgwyliad oes i ddynion yw 77.8 o flynyddoedd (2016-18) o gymharu â disgwyliad oes iach o 65 o flynyddoedd (2010-14)
    • Y disgwyliad oes i fenywod yw 82.3 o flynyddoedd (2016-18) o gymharu â disgwyliad oes iach o 66 o flynyddoedd (2010-14)
    • Mae'r disgwyliad oes iach i ddynion a menywod yn is na chyfartaledd Cymru sef 65.3 a 66.7 o flynyddoedd.
  • Mae 16.2% o oedolion yn dal i ysmygu yn Sir Gaerfyrddin ac mae 63.6% o oedolion dros bwysau neu'n ordew (Cyfartaledd Cymru yw 59.9%) Arolwg Iechyd Cymru 2018/19 a 2019/20
  • Mae atgyfeiriadau i wasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi cynyddu yn ystod pandemig COVID-19 ac rydym yn gweld cynnydd mewn materion cysylltiedig fel Niwed i'r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol.
  • Mae cydafiachedd rhwng iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau hefyd yn fater sy'n peri pryder.