Cydlyniant cymunedol

Amcan llesiant 8: Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch

Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?

  • Mae diogelwch a theimlad o berthyn yn bwysig i lesiant personol ac mae rhagor o bobl bellach yn gwerthfawrogi pwysigrwydd caredigrwydd a bod yn rhan o gymuned.
  • Mae gan gyrff cyhoeddus rwymedigaethau clir i greu a chefnogi cymunedau cydlynus yng Nghymru. Mae Cymunedau Cydlynus yn un o'r Nodau Cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Cymuned gydlynus yw un lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaeth, ac yn parchu ei gilydd a rhannu'r un gwerthoedd.
  • Mae Cydnerthu Cymunedol hefyd yn hanfodol er mwyn galluogi cymunedau i ymateb i, gwrthsefyll, ac adfer sefyllfaoedd andwyol. Mae argyfwng COVID-19 wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd.

Pam y dylem boeni am hyn?

  • Dim ond hanner (51.5%) trigolion Sir Gaerfyrddin sy'n teimlo eu bod yn byw mewn cymunedau cydlynus, lle mae pobl yn trin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth, lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu'n dda, a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol. Bum mlynedd yn ôl, y ffigur oedd 73% a chawsom y canlyniad 5ed gorau yng Nghymru, ond erbyn hyn rydym yn y pedwerydd safle ar ddeg o blith y 22 awdurdod lleol (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2018/19).
  • Mae teimlo'n ddiogel gartref ac yn y gymuned leol yn effeithio ar ymdeimlad pawb o lesiant. Yn benodol, mae effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a llesiant ein poblogaeth yn sylweddol.