Cydlyniant cymunedol

Beth sydd angen i ni ei wneud?

  • Mae angen i ni barhau i gynyddu cydlyniant cymunedol ac i gefnogi a grymuso cymunedau i fynd i'r afael â'u diogelwch, llesiant cyffredinol, a llesiant y rheiny yn y gymuned.
  • Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau ymateb amlasiantaethol i iechyd meddwl a llesiant.
  • Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau'n darparu gwybodaeth, cyngor, mynediad a chymorth rhagweithiol yn deg i bawb.
  • Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i helpu cymunedau i deimlo'n fwy diogel. Mae hyn yn cynnwys diogelwch ar y ffyrdd, diogelu'r cyhoedd, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig.

Dolen gysylltiedig:  Gweler Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol Mai 2020 – Cymru o Gymunedau Cydlynus.

Pa un o'r 7 nod llesiant y mae'r amcan hwn yn eu cyflawni?

Mae'n rhaid i ni weithio tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant cenedlaethol sydd yn y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r amcan hwn yn cyflawni'r nodau canlynol: