Cydlyniant cymunedol

Pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i wella?

  1. Byddwn yn parhau i ddatblygu a gweithredu sut ydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
  2. I sicrhau mwy o gydlyniant cymunedol byddwn yn:
    • Cynyddu dealltwriaeth o'n cymunedau drwy ymgysylltu a chyfathrebu materion allweddol
    • Sicrhau bod unigolion y mae eu diogelwch mewn perygl yn deall y cymorth sydd ar gael
    • Annog cymunedau i wella eu hamgylchiadau
    • Cefnogi diwylliant o oddefgarwch a chynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau cymunedau lleiafrifol
  3. Byddwn yn annog cydnerthedd ac yn datblygu strategaeth ymyrraeth gynnar a chydnerthedd cymunedol i ymateb i effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a llesiant ein poblogaeth.
  4. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i helpu ein trigolion i deimlo'n ddiogel, gan adeiladu ar y gwaith partneriaeth ac adfywio sy'n digwydd yn Tyisha.

Bydd ein ffocws ar gyfer 2021-22 ar:

  • Cydlyniant Cymunedol

Bydd llwyddiant yr amcan hwn yn cael ei fesur gan:

  • Pobl sydd ag ymdeimlad o gymuned
  • Pobl yn teimlo'n ddiogel